Trwyddedau storio petrolewm

Os ydych yn rhedeg busnes lle caiff petrol ei storio a’i roi yn uniongyrchol mewn tanc tanwydd motor tanio mewnol, neu os ydych yn storio symiau mawr o betrol ar gyfer defnydd preifat, mae angen trwydded arnoch gan y cyngor.

Sut ydw i’n gwneud cais am y drwydded hon?

Gallwch wneud cais am drwydded storio petrolewm ar-lein.

Gwneud cais ar-lein am drwydded storio petrolewm ar-lein (gwefan allanol)

Adnewyddu

Mae trwydded storio petrolewm yn ddilys am 12 mis. Gallwch adnewyddu eich trwydded ar-lein.

Adnewyddu trwydded storio petrolewm ar-lein (gwefan allanol)

Sut ydw i’n gwneud cais am y drwydded hon?

Os oes gennych drwydded storio petrolewm eisoes a bod eich amgylchiadau yn newid, gadewch i ni wybod.

Rhowch wybod i ni am newid i'ch trwydded storio petrolewm ar-lein

Faint mae’n ei gostio?

Mae ffi’r drwydded yn dibynnu ar faint o betrolewm yr ydych am ei storio:

  • Hyd at 25,ooo litr:  £41
  • Rhwng 25,000 a 50,000 litr:  £57
  • Mwy na 50,000 litr:  £120

Pan fyddwch yn gwneud cais am eich trwydded byddwch yn talu’r ffi ar-lein, gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.