Tystysgrif gweithredwr pont bwyso

I weithredu unrhyw offer pwyso neu fesur cyhoeddus, megis pont bwyso gyhoeddus, mae’n rhaid cael tystysgrif cymhwysedd gan Brif Arolygwr Pwyso a Mesur y cyngor.

Mae’n rhaid cael gwybodaeth ddigonol er mwyn gwneud eich dyletswyddau yn gywir. Bydd hyn yn cael ei brofi gan Safonau Masnach.

Sut mae gwneud cais?

Y dull cyflymaf a’r rhwyddaf o wneud cais i gael tystysgrif gweithredu pont bwyso gyhoeddus yw gwneud cais ar-lein. 

Gwneud cais am tystysgrif gweithredwr pont bwyso arlein (gwefan allanol)

Faint mae’n ei gostio?

Nid oes cost i wneud cais am dystysgrif gweithredwr pont bwyso gyhoeddus.