Cefnogaeth i blant sy’n dechrau yn y meithrin: Arferion iach
Gall arferion iach dyddiol helpu i wneud i’ch plentyn deimlo’n hapus, yn iach ac yn barod i ddysgu. Mae digon o gwsg, bwyta’n iach, sgiliau gofal personol a chyfleoedd i siarad a chwarae oll yn helpu plant i ddatblygu’r hyder ac annibyniaeth maent eu hangen ar gyfer yr ysgol a thu hwnt.
Nid paratoi plant ar gyfer yr ysgol yn unig y mae’r arferion yma. Maent yn helpu plant i feithrin sgiliau bywyd pwysig sy’n cefnogi eu lles, eu dysgu a’u datblygiad bob dydd.
Cwsg ac arferion amser gwely
Mae noson dda o gwsg yn helpu plant i ganolbwyntio, rheoli eu hemosiynau a mwynhau dysgu.
Ceisiwch:
- gadw amser gwely ac amser deffro yr un fath bob diwrnod pan fo’n bosibl.
- anelwch am 10 i 13 awr o gwsg bob noson i blant 3-5 mlwydd oed.
- diffoddwch y teledu, tabledi, ffonau a sgriniau eraill o leiaf un awr cyn amser gwely.
- dilynwch drefn amser gwely tawel, megis:
- cael bath
- brwsio dannedd
- darllen stori gyda’ch gilydd
- siarad am y diwrnod
Gall gwybod beth sydd i ddod o ran y drefn amser gwely helpu eich plentyn i deimlo’n ddiogel a’i gwneud hi’n haws iddynt ddisgyn i gysgu.
More information about sleep and bedtime routines
Gallwch gael mwy o wybodaeth o:
Hylendid personol a hunan-ofal
Mae annog plant i edrych ar ôl eu hunain yn helpu iddynt deimlo’n hyderus ac yn annibynnol.
Cefnogwch eich plentyn i:
- ddefnyddio’r tŷ bach yn annibynnol a dweud wrth oedolyn os ydynt angen help
- sychu, fflysio a golchi eu dwylo ar ôl defnyddio’r tŷ bach
- defnyddio hances bapur pan fyddant yn tagu neu’n tisian a’i roi yn y bin wedyn
- golchi eu dwylo cyn bwyta, ar ôl defnyddio’r tŷ bach ac ar ôl chwarae tu allan
- brwsio eu dannedd dwywaith y dydd - defnyddiwch fideo dau funud o hyd gan Cyw ar S4C (gwefan allanol) i helpu i wneud y drefn yn hwyl i’ch plentyn
Mae’r sgiliau yma’n helpu plant i aros yn iach a theimlo’n fwy hyderus yn ystod y diwrnod ysgol.
Mwy o wybodaeth am hylendid personol a hunan-ofal
Gallwch gael mwy o wybodaeth o:
Magu annibyniaeth
Mae rhoi cyfleoedd i blant wneud pethau eu hunain yn eu paratoi ar gyfer bywyd ysgol bob dydd.
Anogwch eich plentyn i:
- wisgo a thynnu eu côt yn annibynnol.
- ymarfer defnyddio sipiau, botymau a Velcro.
- rhoi eu hesgidiau ymlaen ar eu pen eu hunain.
- agor eu bocs cinio, cynwysyddion byrbrydau a photel ddŵr.
- helpu i gadw teganau a’u heiddo.
Cofiwch, mae dysgu’r sgiliau yma’n cymryd amser ac ymarfer. Canmolwch ymdrechion eich plentyn a dathlwch eu cynnydd.
Bwyta’n iach ac arferion boreol
Mae brecwast iach yn helpu plant i gael mwy o egni a theimlo’n barod am y diwrnod sydd i ddod.
Mae syniadau’n cynnwys:
- grawnfwyd cyflawn
- tost
- ffrwythau
- iogwrt
- llaeth neu ddŵr i yfed
Gall creu arferion boreol tawel hefyd helpu plentyn i gychwyn eu diwrnod yn teimlo’n gadarnhaol ac wedi paratoi.
Cyfathrebu a lles emosiynol
Mae plant angen teimlo’n hyderus yn mynegi eu meddyliau, teimladau ac anghenion.
Gallwch helpu trwy:
- siarad gyda’ch gilydd trwy gydol y diwrnod.
- gofyn cwestiynau syml a gwrando ar eu hatebion.
- rhoi dewisiadau, megis “Wyt ti eisiau afal neu fanana?”
- eu hannog i siarad am sut maent yn teimlo.
- chwarae gemau sy’n golygu gwrando a chymryd tro, megis “Seimon yn dweud” neu gemau bwrdd syml.
Mae’r gweithgareddau yma’n helpu plant i ddatblygu’r sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol sydd eu hangen arnynt i wneud ffrindiau a gofyn am gymorth pan maent ei angen.
Mwy o wybodaeth am gyfathrebu a lles emosiynol
Gallwch gael mwy o wybodaeth ar y gwefannau canlynol:
- Datblygiad cymdeithasol ac emosiynol
- Lleferydd, iaith, a chyfathrebu