Cefnogaeth i blant sy’n dechrau yn y meithrin: Datblygiad corfforol
Mae datblygiad corfforol yn helpu plant fagu cryfder, cydsymud, cydbwysedd a hyder wrth iddynt dyfu. Mae bod yn actif bob dydd yn cefnogi datblygiad iach ac yn helpu plant ddysgu sgiliau symud pwysig drwy chwarae, archwilio a gweithgareddau bob dydd. Boed hynny’n rhedeg, dringo, dawnsio neu gymryd rhan mewn chwarae yn yr awyr agored, mae llawer o ffyrdd hwyliog o annog plant i fod yn actif.
Pam bod datblygiad corfforol yn bwysig
Mae datblygiad corfforol yn sylfaen hanfodol i iechyd, dysg a lles plentyn drwy gydol ei oes.
Mae chwarae actif, maeth iach ac amgylcheddau cefnogol yn helpu plant:
- fagu cryfder, cydsymud a sgiliau symud
- datblygu hyder ac annibyniaeth
- gwella les a pharodrwydd i ddysgu
- sefydlu arferion iach sy’n gallu para oes
- cyflawni eu llawn botensial.
Chwarae actif a symud
Mae chwarae rheolaidd yn hanfodol i ddatblygu sgiliau corfforol a chefnogi datblygiad cyffredinol. Dylai plant gael cyfleoedd dyddiol i archwilio, symud, dringo, rhedeg, cadw cydbwysedd a chwarae y tu mewn a thu allan.
Sgiliau echddygol bras
Mae sgiliau echddygol bras yn golygu defnyddio’r cyhyrau mawr ar gyfer gweithgareddau fel cropian, cerdded, rhedeg, neidio a dringo. Mae chwarae actif yn cryfhau sgiliau cydsymud, cryfder craidd ac ymwybyddiaeth o le.
Sgiliau echddygol manwl
Mae datblygiad echddygol manwl yn canolbwyntio ar gyhyrau bach y dwylo a’r bysedd. Datblygir sgiliau hanfodol bob dydd megis gafael mewn pethau, defnyddio cyllyll a ffyrc, darlunio ac ysgrifennu cynnar yn naturiol drwy weithgareddau ymarferol a chwarae dyddiol.
Llythrennedd corfforol
Mae meithrin llythrennedd corfforol yn golygu helpu plant ennill hyder, ysgogiad a sgiliau i fwynhau symud fel rhan o fywyd bob dydd. I fabanod, mae gweithgareddau fel amser ar eu boliau dan oruchwyliaeth yn cefnogi cryfder cynnar. I blant hŷn, mae’n golygu gwneud chwarae actif yn rhan naturiol, hwyliog o’r dydd.
Twf a maeth iach
Mae maeth da ac yfed digon yn hanfodol i iechyd, twf a datblygiad plentyn. Mae helpu plant i ddatblygu arferion bwyta ac yfed iach pan maen nhw’n ifanc yn cefnogi twf cyson, cynnal pwysau iach a hyrwyddo iechyd y geg da.
Mae cyfuno chwarae actif â bwyd iach yn helpu plant deimlo ar eu gorau, yn sefydlu arferion gwych a ffynnu yn y cartref ac yn yr ysgol.
Rhaglen Plant Iach Cymru
Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn helpu gweithwyr proffesiynol iechyd fonitro twf a datblygiad plant drwy gysylltiadau ac asesiadau iechyd rheolaidd.
Mae cael cyswllt rheolaidd yn sicrhau bod plant a theuluoedd yn gallu cael gafael ar y gefnogaeth gywir cyn gynted ag y bydd unrhyw bryderon yn codi am eu datblygiad.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Llywodraeth Cymru: Rhaglen Plant Iach Cymru (gwefan allanol)