Cefnogaeth i blant sy’n dechrau yn y meithrin: dysgu sut i ddefnyddio’r toiled

Mae dysgu sut i ddefnyddio’r toiled yn gam pwysig yn natblygiad plentyn. Mae pob plentyn yn wahanol a byddant yn dysgu wrth eu pwysau eu hunain, ond gydag amynedd, anogaeth a chefnogaeth, gall y rhan fwyaf o blant ddysgu bod yn lân a sych. 

Wrth i blant baratoi i ddechrau yn yr ysgol, gall datblygu sgiliau defnyddio’r toiled yn annibynnol eu helpu i deimlo’n fwy hyderus, cyfforddus ac y barod i gymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol. Drwy gydweithio, gall teuluoedd a safleoedd blynyddoedd cynnar helpu plant i gyflawni’r garreg filltir bwysig hon cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol.

Mae defnyddio’r toiled yn sgil sy’n datblygu dros amser. Bydd llwyddiannau, rhwystrau a damweiniau ar y daith, ac mae hynny’n hollol normal.  Mae cadw’n ddigynnwrf, cadarnhaol a chyson yn gallu helpu plentyn deimlo’n hyderus wrth ddysgu. 

Gall y rhan fwyaf o blant, yn cynnwys llawer ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, ddysgu sut i ddefnyddio’r toiled yn llwyddiannus. Mae’n bosibl y bydd ar rai plant, yn enwedig rhai â gwahaniaethau synhwyraidd neu ddatblygiadol, angen mwy o amser, cefnogaeth ac ailadrodd.

Pam bod dysgu sut i ddefnyddio’r toiled yn bwysig

Gall dysgu sut i ddefnyddio’r toiled:

  • gefnogi’r bledren a’r coluddyn i ddatblygu'n iach
  • meithrin hyder ac annibyniaeth
  • paratoi plant ar gyfer trefn meithrinfa ac ysgol
  • arbed arian ar glytiau a weips
  • lleihau gwastraff a helpu i warchod yr amgylchedd

Paratoi at ddysgu sut i ddefnyddio’r toiled

Cyn dechrau dysgu sut i ddefnyddio’r toiled, mae’n bwysig cofio:

  • mae’n broses raddol, nid rhywbeth sy’n digwydd dros nos
  • gall plant ymgyfarwyddo â phot neu doiled cyn gynted ag y byddant yn gallu eistedd yn ddiogel ar eu pennau eu hunain
  • mae ymchwil yn awgrymu y gall cyflwyno defnyddio’r toiled rhwng 18 a 30 mis oed gefnogi arferion iach o ran y bledren a’r coluddyn 
  • nid yw llawer o blant yn dangos arwyddion amlwg eu bod yn barod neu’n gofyn am gael peidio gwisgo clwt
  • weithiau, gall dechrau’n rhy hwyr ei gwneud yn anoddach dysgu arferion newydd o ran defnyddio’r toiled

Pethau i’w hystyried

Gwnewch yn siŵr bod plant yn iach ac yn gyfforddus wrth eu dysgu sut i ddefnyddio’r toiled. Ceisiwch:

  • wneud yn siŵr nad yw eich plentyn yn rhwym, gan y gall hynny ei gwneud yn anoddach i ddysgu defnyddio’r toiled
  • annog diet iach gyda digon o ffrwythau, llysiau a dŵr
  • cefnogi pasio carthion yn rheolaidd
  • penderfynu a fyddai pot neu doiled gyda sedd plentyn a stepen yn gweithio orau i’ch plentyn

Sut i baratoi

Gallwch helpu i baratoi eich plentyn drwy:

  • newid clytiau gwlyb neu fudr yn syth
  • cyflwyno’r pot neu doiled drwy chwarae, straeon a sgyrsiau bob dydd
  • gadael i’ch plentyn eistedd ar y pot neu doiled yn rheolaidd, hyd yn oed os nad yw’n ei ddefnyddio i ddechrau
  • gweithio’n agos gyda staff y feithrinfa, gwarchodwyr plant neu aelodau’r teulu fel bod pawb yn defnyddio’r un ffordd

Dechrau dysgu sut i ddefnyddio’r toiled

Pan fyddwch yn barod i ddechrau dysgu eich plentyn sut i ddefnyddio’r toiled:

  • dewiswch amser pan fydd bywyd yn weddol dawel, heb fawr ddim yn tarfu
  • egluro i’ch plentyn ei fod yn symud o ddefnyddio clytiau i ddefnyddio trôns neu nicers
  • ei annog i fynd i’r toiled yn rheolaidd drwy gydol y dydd
  • chwilio am arwyddion bod ar eich plentyn angen y toiled, megis:
    • ffidlan
    • sgwatio
    • mynd yn dawel
    • dweud ei fod angen pipi
  • defnyddio amserlenni gweledol, lluniau, symbolau (gwefan allanol) neu Makaton (gwefan allanol) os ydynt yn helpu’ch plentyn ddeall y broses
  • canmol pob ymdrech a chyflawniad, yn cynnwys eistedd ar y pot neu doiled
  • byddwch yn gyson a cheisiwch beidio mynd yn ôl i ddefnyddio clytiau yn ystod y dydd os nag oes gwirioneddol raid

Sut i helpu eich plentyn

Gallwch helpu trwy:

  • rhoi dillad sy’n hawdd eu tynnu i fyny ac i lawr am eich plentyn
  • rhoi amser heb glwt fel bod eich plentyn yn dechrau sylwi pan fydd angen mynd i’r toiled
  • gwneud yr ystafell ymolchi’n lle cyfforddus a chroesawgar
  • ystyried y golau, lefelau sŵn a chyfforddusrwydd eistedd i blant â sensitifrwydd synhwyraidd
  • peidio cynhyrfu os bydd damwain yn digwydd, mae damweiniau’n rhan arferol o ddysgu ac ni ddylent byth arwain at gosbi neu godi cywilydd

Amser cysgu a thros nos

Yn aml, mae bod yn sych dros nos yn datblygu wedi i blant ddefnyddio’r toiled yn hyderus yn ystod y dydd.

Gallwch helpu trwy:

  • annog eich plentyn i ddefnyddio’r toiled cyn mynd i gysgu a chyn amser gwely
  • dilyn trefn gyson amser gwely
  • osgoi diodydd mawr cyn gwely, ond gan sicrhau bod eich plentyn yn yfed digon yn ystod y dydd
  • ei gwneud yn hawdd i’ch plentyn fynd i’r toiled os yw’n deffro yn ystod y nos

Os yw eich plentyn yn gwlychu’r gwely’n gyson ar ôl iddo fod yn 5 oed, siaradwch â gweithwyr iechyd proffesiynol am gyngor a chefnogaeth.

Cefnogaeth a chyngor am ddefnyddio’r toiled

Os ydych yn bryderus am arferion defnyddio’r toiled, pledren neu goluddion eich plentyn, peidiwch â bod ofn gofyn am help. Gall cyngor a chefnogaeth gynnar wneud byd o wahaniaeth.

Cofiwch, mae pob plentyn yn datblygu’n wahanol. Gydag amynedd, anogaeth a’r gefnogaeth gywir, bydd y rhan fwyaf o blant yn dysgu sut i ddefnyddio’r toiled yn llwyddiannus yn eu hamser eu hunain.

Ble i gael cymorth

Os oes arnoch angen cymorth neu gyngor, siaradwch ag: