Darllenwch y nodiadau pwysig hyn a thiciwch i gadarnhau eich bod yn deall ac yn cytuno cyn i chi gwblhau’r cais hwn am le mewn ysgol:
Rhiant cyfreithiol, gofalwr neu warcheidwad y plentyn yn unig a gaiff lenwi’r ffurflen gais hon.
Pan fo cyfrifoldeb a rennir rhwng rhieni, dylai’r ddau riant gytuno ar y dewisiadau a restrir yn y cais hwn. Cyfrifoldeb y rhieni yw dod i’r cytundeb hwn.
Darperir cludiant ysgol am ddim fel arfer i’r ysgol addas agosaf yn unig os yw’n fwy na 2 filltir o’r cyfeiriad cartref ar gyfer ceisiadau Derbyn - Blwyddyn 6, neu’n fwy na 3 milltir o gyfeiriad cartref ar gyfer ceisiadau Blwyddyn 7 – Blwyddyn 11.
Gallwch fynegi dewis am addysg cyfrwng Cymraeg neu Saesneg, neu addysg sy’n seiliedig ar ffydd.