Cefnogodd y prosiect TRAC 11-24 bobl ifanc rhwng 11-24 oed oedd wedi ymddieithrio ag addysg, ac mewn perygl o fod yn NEET (heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant). Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop am 7 mlynedd hyd at fis Rhagfyr 2022.
Roedd yna dimau TRAC lleol ledled gogledd Cymru yn darparu amrywiaeth o gymorth i bobl ifanc y gellid ei addasu i gefnogi pobl ifanc. Roedd hyn yn cynnwys help i:
- magu hyder
 
- gwella iechyd meddwl a lles
 
- ennill cymhwyster
 
- ymgeisio i fynd ar gwrs mewn coleg neu brifysgol
 
- ymgeisio am brentisiaeth
 
- cael swydd
 
Ar gyfer pwy oedd TRAC?
Cafodd y bobl ifanc a oedd yn gymwys ar gyfer y prosiect eu nodi drwy offer proffil dysgu a gynhaliwyd trwy ysgolion a cholegau.   Roedd yr offer yn defnyddio data am bethau fel ymddygiad yr unigolyn ifanc, cyrhaeddiad a phresenoldeb i gynhyrchu sgôr a oedd yn dweud wrthym a oeddent yn gymwys i gymryd rhan yn y prosiect.  Byddai’r unigolyn ifanc wedyn yn cael ei atgyfeirio drwy’r ysgol neu’r coleg. 
Beth oedd TRAC yn ei gynnig?
Roedd gan bobl ifanc ar y rhaglen TRAC fynediad at:
- Cwnsela wedi’i ddarparu gan gwnselwyr a gweithwyr iechyd meddwl
 
- Cymorth gyda lles a phresenoldeb wedi’i ddarparu gan Weithwyr Cefnogi Addysg, Gweithwyr Lles, Swyddogion Cynnal Presenoldeb a gweithwyr ieuenctid, yn ogystal â sesiynau un i un, chwaraeon ac iechyd a chymorth a datblygiad addysg
 
- Hyfforddiant a chyrsiau ymgysylltu gan amrywiaeth o ddarparwyr
 
- Gwasanaethau Gyrfa Cymru, gan gynnwys Sbardun, sesiynau unigol ac mewn grwpiau a chyfleoedd profiad gwaith wedi’u haddasu ar gyfer yr unigolyn.
 
Roedd y bobl ifanc a oedd yn cymryd rhan yn elwa o gefnogaeth lles ac iechyd, a oedd yn gymorth iddynt ymgysylltu’n barhaus yn eu haddysg.  Rhoddodd TRAC fynediad iddynt at gwricwlwm amgen, a oedd yn eu galluogi i gymryd cymwysterau achrededig a oedd yn gysylltiedig â chyfleoedd y farchnad lafur lleol a hefyd yn gwella’u cyrhaeddiad.
Llwyddiannau
Gwelodd TRAC lawer o ganlyniadau ardderchog, gan gynnwys:
- Lleoliadau gwaith yn arwain at gynigion o brentisiaethau neu swyddi parhaol
 
- Colegau’n cynnig lleoedd diamod
 
- Gwella lles
 
- Cymwysterau mewn amrywiaeth o feysydd
 
- Cannoedd o bobl ifanc yn datblygu sgiliau newydd i helpu i lunio eu dyfodol
 
- Perthnasau cryfach gyda theulu a ffrindiau a chysylltiadau newydd. 
 
I weld rhai o lwyddiannau TRAC, edrychwch ar yr fideos astudiaethau achos ar sianel YouTube TRAC (gwefan allanol).
Pwy oedd yn rhan o’r prosiect?
Cyngor Sir Ddinbych oedd yn arwain TRAC mewn partneriaeth â: 
Cyllid
Roedd TRAC 11-24 yn brosiect a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, a oedd yn cael cymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop Blaenoriaeth Echel 3: Cyflogaeth a Chyrhaeddiad Ieuenctid; Amcan Penodol 2 (lleihau'r nifer o bobl ifanc 11-24 oed sydd â'r risg fwyaf o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)) yng Ngogledd Cymru.
- Cyfnod y Prosiect: Gorffennaf 2015 i Rhagfyr 2022
 
- Cyllid: £37m a £23m ohono wedi ei ddarparu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop /Cronfeydd Strwythurol
 
- Pobl ifanc targed a gefnogwyd: 11,109
 
- Pobl Ifanc Gwirioneddol a Gefnogwyd 11,033, ac o’r rhain:
- Enillodd 1,891 gymwysterau
 
- Aeth 1,045 i addysg bellach/hyfforddiant
 
- Gostyngodd 4,579 y risg o ddod yn NEET
 
 
  