Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.
Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.
Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.
Cuddio
Mae’n bleser gennym gyhoeddi enillwyr y gystadleuaeth i ysgolion i enwi lorïau ailgylchu newydd y Cyngor.
Cyflwynwyd dros 100 o geisiadau gan ddisgyblion ysgolion Sir Ddinbych fis diwethaf. Criwiau gwastraff y Cyngor – fydd yn gyrru’r cerbydau newydd - oedd yn gyfrifol am y gwaith beirniadu cychwynnol, gyda’r penderfyniad terfynol wedi ei gymryd gan Arweinydd y Cyngor, y Prif Weithredwr a’r Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth.
Mae'r cerbydau newydd hyn wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhan o’r ymrwymiad i wella lefelau ailgylchu yng Nghymru. Bydd y cerbydau’n fwy cost-effeithiol ac ecogyfeillgar, gan arwain at arbedion cost yn y tymor hir.
Bydd yr enwau buddugol yn cael eu hargraffu ar y lorïau newydd yn fuan, ac fe fydd y lluniau i’w gweld yma yn y man.
Enw’r lori
Ysgol
Terbinator
Bodnant Community School
Stig of the Dump Truck
Ysgol Plas Brondyffryn
Recyclops
Ysgol Dyffryn Iâl
Lord of the Bins
Ysgol Frongoch
Trashformer
Ysgol y Faenol
Trash Gordon
Ysgol Penmorfa
Recyclosaurus Rex
Binny McBinface
Ysgol Dewi Sant
Bindarela
Tyrbo
Ysgol Caer Drewyn
Binnie
Ysgol y Castell
Ailgylchugeitor
Ysgol Pen Barras
Draig Daear Dragon
Ysgol Esgob Morgan
ArBINnig
Ysgol Twm o’r Nant
Rubbish Sucker Bob
Ysgol Cefn Meiriadog
Benny the Bin Lorry
Dusty McBinlid
Binbych
Mr Eco
Dilys
Stitch
(Dyluniad eicon gan Macrovector / Freepik)
Browser does not support script.