Oedi dros dro i gasgliadau eitemau swmpus a darparu biniau newydd
Oherwydd prinder staff, mae’n bosibl y bydd yn cymryd hyd at 15 diwrnod i gasglu eitemau swmpus a ddarparu biniau newydd. Lle bo’n bosibl, caiff eitemau swmpus eu casglu a bydd biniau newydd yn cael eu darparu ar benwythnosau.
Os ydych chi’n aros am fin du, rhowch eich gwastraff nad oes modd ei ailgylchu mewn bagiau nes byddwch chi’n cael eich bin newydd.
Os ydych chi’n aros am fin glas, rhowch eich eitemau i’w hailgylchu mewn bocsys nes byddwch chi’n cael eich bin newydd.
Byddwn ni’n blaenoriaethu darparu biniau gwyrdd newydd.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.