Ynglŷn â'r Gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol
Mae hwn yn wasanaeth casglu wythnosol i ardaloedd Dinbych (LL16) a Llanelwy (LL17) yn unig. Gellir cofrestru ar gyfer pob ardal yn Sir Ddinbych yn 2024.
Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael casgliadau wythnosol Nwyddau Hylendid Amsugnol os oes gan eich aelwyd unrhyw un o’r eitemau canlynol i’w gwaredu:
- clytiau tafladwy, bagiau clytiau a weips
- powlenni gwely a leinars
- padiau anymataliaeth
- padiau gwely a chadair
- bagiau colostomi a stoma
- bagiau cathetr a photeli wrin, a
- menig plastig a ffedogau untro.
Beth yw 'Nwyddau Hylendid Amsugnol?'
Mae Nwyddau Hylendid Amsugnol yn eitemau a ddefnyddir i amsugno hylifau’r corff a gwastraff megis clytiau, bagiau clytiau a weips, yn ogystal â chynnyrch anymataliaeth i oedolion.
Beth yw'r gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol newydd?
O fis Medi 2023, rydym yn cyflwyno gwasanaeth casglu am ddim ar gyfer eich Nwyddau Hylendid Amsugnol. Os byddwch yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd hwn, byddwn yn casglu’r gwastraff hwn i chi bob wythnos.

Ar ôl ichi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth, fe wnawn ni ddanfon y canlynol ichi:
- cyflenwad o sachau piws untro i chi eu llenwi â’ch gwastraff AHP,
- cadi du gyda chaead piws i chi roi eich sachau llawn ynddo i ni eu casglu,
- set o dagiau 'ail-archebu' - pan fyddwch ar fin rhedeg allan o sachau, clymwch un o’r tagiau hyn i handlen eich cadi, ac fe wnawn ni adael cyflenwad newydd o sachau ar ben, neu wrth ymyl, eich cadi – a
- llythyr yn cadarnhau'r diwrnod casglu, gyda nodyn atgoffa ynghylch yr hyn y byddwn yn ei gasglu fel rhan o’r gwasanaeth newydd hwn.
Byddwn yn danfon yr eitemau hyn i’ch cartref rhwng 7 Awst a 22 Medi, cyn i’r gwasanaeth newydd gael ei lansio ddydd Llun 25 Medi 2023.
Pam ydych chi'n cyflwyno casgliadau newydd ar gyfer Nwyddau Hylendid Amsugnol?
Gwyddom fod hyd at 20% o’r hyn y mae preswylwyr yn ei roi yn eu biniau du neu sachau pinc ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu yn wastraff Nwyddau Hylendid Amsugnol. Rydym yn cyflwyno’r gwasanaeth newydd hwn i symud y gwastraff hwn o’r cynwysyddion hynny, i greu mwy o le ar gyfer eich gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Rydym hefyd yn ystyried ffyrdd o ailgylchu’r nwyddau hylendid amsugnol hynny rydym yn eu casglu gennych. O fis Medi 2023, rydym yn dechrau casglu’r gwastraff hwn ar wahân i’ch gwastraff ailgylchu ac na ellir ei ailgylchu, fel ein bod yn barod i ddechrau ailgylchu eich Nwyddau Hylendid Amsugnol pan fydd gennym gontract â chyfleuster ailgylchu.
Pan fyddwn yn gallu ailgylchu Nwyddau Hylendid Amsugnol, gellir ei ddefnyddio i gynhyrchu amrywiaeth o gynnyrch newydd, a allai gynnwys byrddau ffibr a phaneli acwstig ar gyfer lloriau a waliau, ac fel deunydd peirianneg i’w ddefnyddio ar arwynebau ffyrdd.
Sut galla i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol?
Gallwch gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol newydd o ddydd Llun 3 Gorffennaf 2023.
Cofrestrwch ar gyfer y gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol
Yn ystod y cyfnod cofrestru cychwynnol, dim ond cartrefi yn ardaloedd cod post LL16 ac LL17 fydd yn gallu cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn.
Pan fyddwn wedi bod yn darparu’r gwasanaeth yn yr ardaloedd hynny am tua chwe mis, byddwn yn ymestyn y gwasanaeth i’r sir gyfan. Byddwn yn rhannu manylion y cyfnod cofrestru nesaf, fydd ar agor i holl breswylwyr Sir Ddinbych, yn nes at yr amser.
Os byddwch yn dewis peidio â chofrestru â’n gwasanaeth casglu newydd, neu os nad ydych yn gymwys i wneud hynny yn ystod y cyfnod cofrestru cychwynnol, dylech barhau i roi eich Nwyddau Hylendid Amsugnol yn eich biniau du neu sachau pinc.
Os ydych yn byw mewn fflat â biniau cymunedol ar gyfer ailgylchu neu wastraff na ellir ei ailgylchu, nid yw’r gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol newydd hwn yn berthnasol i chi eto. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno yn eich ardal chi. Hyd hynny, dylech barhau i roi eich Nwyddau Hylendid Amsugnol yn eich bin cymunedol ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Pa fath o Nwyddau Hylendid Amsugnol fyddwch chi'n eu casglu?
Byddwn yn casglu:
- clytiau tafladwy, bagiau clytiau a weips
- powlenni gwely a leinars
- padiau anymataliaeth
- padiau gwely a chadair
- bagiau colostomi a stoma
- bagiau cathetr a photeli wrin, a
- menig plastig a ffedogau untro.
Ni fyddwn yn casglu:
- gwastraff clinigol, megis gorchuddion neu rwymynnau â gwaed arnynt; nodwyddau, chwistrellau a chynnyrch miniog eraill,
- nwyddau mislif megis leinars, tamponau a thyweli,
- unrhyw eitemau y gellir eu hailgylchu o gartref gan ddefnyddio eich cynwysyddion eraill gan y Cyngor, ac
- unrhyw eitemau y gellir eu hailgylchu yn eich Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol.
Faint mae'r gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol newydd yn ei gostio?
Mae’r gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol newydd am ddim i breswylwyr sy’n byw yn Sir Ddinbych.
Pa mor aml fyddwch chi'n casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol?
Pan fyddwch wedi cofrestru â’r gwasanaeth newydd, byddwn yn anfon llythyr yn cadarnhau eich diwrnod casglu.
Byddwn yn casglu gwastraff Nwyddau Hylendid Amsugnol o’ch cartref bob wythnos.
Cwestiynau Cyffredin
I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol, darllenwch eich Cwestiynau Cyffredin.