Gwasanaeth paru cartrefi gwag

Mae’r gwasanaeth paru cartrefi gwag yn wasanaeth rhad ac am ddim sy’n cysylltu perchnogion eiddo gwag yn Sir Ddinbych gyda buddsoddwyr sydd eisiau troi eiddo gwag yn gartrefi clyd.

Fedrwn ni ddim darparu sicrwydd y byddwch chi’n taro bargen, ond byddwn yn ceisio dod o hyd i’r parau gorau yn defnyddio’r wybodaeth sydd ar ein rhestrau o werthwyr a phrynwyr posib’. Rydym ni’n gobeithio y bydd y cyflwyniadau a wnawn yn arwain at daro bargeinion sy’n troi eiddo gwag yn gartrefi unwaith eto.

Sut mae cymryd rhan?

Os ydych chi’n berchen ar eiddo gwag ac yn dymuno ei werthu neu os ydych chi’n fuddsoddwr posib, anfonwch neges i taistrategol@sirddinbych.gov.uk i dderbyn rhagor o wybodaeth. Mae ffurflenni cais hefyd ar gael isod.

Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio?

Beth yw telerau’r cynllun?

Cyn i chi gofrestru fe ddylech chi gofio y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu rhannu â phartïon pan ganfyddir pâr addas. Mae’n rhaid i’r ddwy ochr roi caniatâd cyn y gellir rhannu gwybodaeth rhyngddyn nhw.

Mae’r gwasanaeth yn dod â’r ddwy ochr ynghyd, o bosib’ i drafod bargen a fyddai o fudd i’r ddwy ochr, ond nid oes unrhyw sicrwydd o lwyddiant.

Pwy sy'n gallu cymryd rhan?

Mae’r cynllun ar agor i unrhyw un sy’n berchen ar eiddo gwag yn Sir Ddinbych ac i unrhyw fuddsoddwr neu landlord sy’n edrych ar droi eiddo gwag yn gartref unwaith eto. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim.

Sut ydw i'n ychwanegu fy manylion at y rhestr baru?

Dylai buddsoddwyr posib’ a landlordiaid lenwi’r ffurflen gais hon:

Gwasanaeth paru cartrefi gwag: ffurflen gais buddsoddwyr (MS Word, 20KB)

Dylai perchnogion cartrefi gwag lenwi'r ffurflen hon:

Gwasanaeth paru cartrefi gwag: ffurflen gais perchnogion (MS Word, 20KB)

Gallwch anfon y ffurflen gais ar ffurf atodiad i taistrategol@sirddinbych.gov.uk neu ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post i:

Cynllunio Strategol a Thai
Cyngor Sir Ddinbych
Blwch Post 62
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 9AZ

Sut ydw i'n gadael y cynllun?

Cysylltwch â ni ar taistrategol@sirddinbych.gov.uk ac fe wnawn ni eich tynnu oddi ar ein rhestrau.

Sut caiff y parau eu blaenoriaethu?

Bydd y cynllun yn paru cartrefi gwag a pherchnogion posib’ yn defnyddio meini prawf sylfaenol. Pan fo mwy nag un pâr addas, defnyddir dyddiad y cais i flaenoriaethu'r cynigion.