Sioeau Deithiol Costau Byw

A ydych chi’n gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael i’ch helpu chi, aelod o deulu, ffrind neu gydweithiwr yn ystod yr argyfwng costau byw? Dewch draw i’n sioeau teithiol Costau Byw i gael gwybodaeth a chyngor gan rai o’n gwasanaethau a sefydliadau eraill am:

  • Cymorth ariannol
  • Cymorth cyflogaeth
  • Tanwydd a chyfleustodau
  • Bwyd a bwyta’n dda
  • Cefnogaeth i blant a’u teuluoedd/gofalwyr
  • Tai
  • Iechyd a Lles

Pryd fydd y Sioeau Teithiol yn cael eu cynnal?

Does dim sioeau teithiol wedi eu cynllunio ar hyn o bryd.

Byddwn yn ychwanegu digwyddiadau yn ystod y misoedd nesaf, cofiwch gadw golwg i weld os oes digwyddiad yn eich ymyl chi. Neu, os hoffech dderbyn hysbysiad am y digwyddiadau, anfonwch e-bost at community.resilience@denbighshire.gov.uk