Cynllun Cymorth ar gyfer Tanwydd Gwresogi oddi ar y Grid

Os ydych chi'n gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor oherwydd eich bod chi ar incwm isel, ac yn dibynnu ar olew gwresogi neu nwy petrolewm hylif (LPG) i gynhesu'ch cartref, rydych chi'n gymwys i gael taliad untro o £200.

Pwy all wneud cais?

Os ydych chi eisoes yn cael budd-dal Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ac nad yw'ch cartref wedi'i gysylltu â'r grid nwy, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol ac yn eich gwahodd i wneud cais.

Os hoffech chi wybod mwy am y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor, gallwch ymweld â'n tudalen Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor.

Peidiwch â chysylltu ag unrhyw drydydd parti sy'n hysbysebu er mwyn cael help i hawlio'r taliad hwn. Gallai hyn fod yn sgâm.

Sut i wneud cais

Y dyddiad cau i wneud cais am y cynllun hwn oedd ddydd Mercher 30 Medi 2026.

Apelio

Nid oes yna hawl i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad i beidio â dyfarnu taliad. Ni fydd pobl y gwrthodir taliad iddynt yn gymwys oherwydd nad ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwyso.

Cymorth arall sydd ar gael

Ewch i'r tudalennau canlynol os ydych chi'n ei chael hi'n anodd talu eich biliau neu gynhesu eich cartref: