Eiddo masnachol: Adeiladau’r Orsaf (y Rhyl)

Mae Adeiladau’r Orsaf yn eiddo rhestredig Gradd II ac yn rhan o brif orsaf drenau a phrif orsaf fysiau’r Rhyl - sy’n golygu ei fod yn un o’r lleoliadau busnes mwyaf hygyrch yn y rhanbarth.

Yn dilyn gwaith ailwampio helaeth, mae Adeiladau’r Orsaf bellach yn cynnig casgliad o unedau swyddfa mewn ystod o feintiau, sy’n ddelfrydol ar gyfer sefydliadau sy’n chwilio am gyfeiriad arbennig gyda chysylltiadau cludiant rhagorol.

Golygfa blaen o Adeiladau Gorsaf

Uned a swyddfa ar gael

Mae’r tabl canlynol yn dangos beth sydd ar gael i rentu yn yr eiddo hwn.

Unedau a swyddfeydd i rentu yn Adeiladau'r Orsaf 
Uned/SwyddfaSafonau Mesur Eiddo Rhyngwladol (IPMS) 3.2 troedfedd sgwâr (sq.ft)Rent y flwyddyn
Swyddfa 1 300 sq.ft £2,400
Swyddfa 2 300 sq.ft £2,400
Swyddfa 4 541 sq.ft £4,300
Swyddfa A 543 sq.ft £4,300
Swyddfa C 1,233 sq.ft £7,400
Swyddfa F 1,240 sq.ft £7,450
Swyddfa G 415 sq.ft £3,300

Ymweld neu ofyn am yr eiddo hwn

Gallwch gysylltu â ni os oes gennych ddiddordeb yn yr eiddo hwn, neu os hoffech chi ragor o wybodaeth.

Cysylltu â ni

Parcio

Mae gofodau parcio car heb eu cadw ar gael tu allan i’r adeilad ar sail cyntaf i’r felin.

Cyfeiriad

Y cyfeiriad ar gyfer yr eiddo masnachol hwn yw:

Adeiladau’r Orsaf
Y Rhyl
LL18 1AT

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.