Mae Canolfan Fusnes Morfa Clwyd, a fu unwaith yn ffatri stampiau, yn cyfuno cymeriad hanesyddol â chyfleusterau busnes modern. Cafodd y safle ei ymestyn gydag wyth o unedau diwydiannol ychwanegol, gan greu canolfan hyblyg ar gyfer amrywiaeth o fentrau.
O fewn hanner milltir o ganol tref y Rhyl a’r gorsafoedd bysiau a threnau lleol, mae’r ganolfan yn cynnig cysylltiadau cludiant rhagorol a chyfleus ar gyfer staff ac ymwelwyr.
Mae Canolfan Fusnes Morfa Clwyd yn darparu amrywiaeth o unedau diwydiannol a gofod swyddfa ar gyfer busnesau newydd.

Uned a swyddfa ar gael
Nid oes unedau na swyddfeydd ar gael i’w gosod yn yr eiddo hwn ar hyn o bryd.
Gallwch edrych ar ein heiddo masnachol eraill i weld a oes unrhyw unedau neu swyddfeydd ar gael sy’n cyd-fynd â’ch gofynion.
Ymweld neu ofyn am yr eiddo hwn
Gallwch gysylltu â ni os oes gennych ddiddordeb yn yr eiddo hwn, neu os hoffech chi ragor o wybodaeth.
Cysylltu â ni
Parcio
Mae cyfleusterau parcio ar y safle yn Ganolfan Fusnes Morfa Clwyd.
Cyfeiriad
Y cyfeiriad ar gyfer yr eiddo masnachol hwn yw:
84 Marsh Road
Y Rhyl
LL18 2AF
Map o'r lleoliad
Sgipiwch y map gweladwy.