Eiddo masnachol: Canolfan Westbourne (y Rhyl)

Mae Canolfan Westbourne yn ddatblygiad cymysg yng ngorllewin y Rhyl, sy’n darparu cyfuniad o swyddfeydd a gofod diwydiannol ysgafn. Wedi’i adeiladu gan Gyngor Sir y Fflint, mae’n cynnig unedau hyblyg sy’n addas i amrywiaeth o fusnesau, o swyddfeydd bychain i weithdai a chyfleusterau storio.

Mae gan y ganolfan gysylltiadau cludiant da a mynediad rhwydd i ganol tref y Rhyl a’r ardal gyfagos.  Mae’r cymysgedd o unedau gwahanol yn ei gwneud yn ddewis delfrydol ar gyfer busnesau sy’n chwilio am safleoedd hyblyg a fforddiadwy.

Golygfa blaen o Canolfan Westbourne

Uned a swyddfa ar gael

Nid oes unedau na swyddfeydd ar gael i’w gosod yn yr eiddo hwn ar hyn o bryd.

Gallwch edrych ar ein heiddo masnachol eraill i weld a oes unrhyw unedau neu swyddfeydd ar gael sy’n cyd-fynd â’ch gofynion.

Ymweld neu ofyn am yr eiddo hwn

Gallwch gysylltu â ni os oes gennych ddiddordeb yn yr eiddo hwn, neu os hoffech chi ragor o wybodaeth.

Cysylltu â ni

Parcio

Mae gofodau parcio car heb eu cadw ar gael tu allan i’r adeilad ar sail cyntaf i’r felin.

Cyfeiriad

Y cyfeiriad ar gyfer yr eiddo masnachol hwn yw:

Canolfan Westbourne
Wood Road
Y Rhyl
LL18 1DZ

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.