Ystâd ddiwydiannol ysgafn wedi’i lleoli i’r de o ganol tref y Rhyl yw Gweithdai Pinfold. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi datblygu ac ymestyn y safle. Mae’n darparu amrywiaeth o unedau gweithdy ar gyfer masnachwyr, gwasanaethau lleol a gweithgynhyrchwyr ysgafn. Mae’r ystâd yn cynnig gofod ymarferol a fforddiadwy sy’n cefnogi busnesau bach a busnesau newydd sy’n awyddus i ddatblygu yn yr ardal.
Ar gyrion y Rhyl, mae Gweithdai Pinfold yn elwa o gysylltiadau cludiant, lleoliad cyfleus 3 milltir o’r A55 ac o fewn cyrraedd i Goleg y Rhyl a chanol y dref.

Uned a swyddfa ar gael
Mae’r tabl canlynol yn dangos beth sydd ar gael i rentu yn yr eiddo hwn.
Unedau a swyddfeydd i rentu ym Gweithdai Pinfold
| Uned/Swyddfa | Safonau Mesur Eiddo Rhyngwladol (IPMS) 3.2 troedfedd sgwâr (sq.ft) | Rent y flwyddyn |
| Uned A3 |
234 sq.ft GIA |
£2,350 |
Ymweld neu ofyn am yr eiddo hwn
Gallwch gysylltu â ni os oes gennych ddiddordeb yn yr eiddo hwn, neu os hoffech chi ragor o wybodaeth.
Cysylltu â ni
Parcio
Mae gofodau parcio car heb eu cadw ar gael tu allan i’r adeilad ar sail cyntaf i’r felin.
Cyfeiriad
Y cyfeiriad ar gyfer yr eiddo masnachol hwn yw:
Ffordd Derwen
Y Rhyl
LL18 2YR
Map o'r lleoliad
Sgipiwch y map gweladwy.