Datganiad o Ddiddordeb: Gerddi'r Coroni, Y Rhyl - Cyfleuster Ystafell Newid

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn chwilio am sefydliad partner i reoli a gweithredu y cyfleuster Ystafell Newid yng Ngerddi’r Coroni, Y Rhyl.

Bydd y cyfleuster o reidrwydd ar gael i bob sefydliad chwaraeon sy’n defnyddio safle'r Gerddi.

Bydd y partner llwyddiannus sydd â diddordeb yn gyfrifol yn llwyr am gynnal a chadw'r adeilad, agor a chau'r cyfleuster yn ogystal â chymryd archebion mewn modd addas dros y ffôn neu drwy e-bost.

Rhagwelir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymrwymo i drefniant prydles gyda’r Cyngor fel y landlord sydd â chyfrifoldebau diffiniedig dros atgyweirio ynghyd â rhwymedigaethau rheoli.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb anfon e-bost at property.services@denbighshire.gov.uk gyda’r teitl "Cyfleusterau Newid Gerddi'r Coroni" yn glir ar yr e-bost erbyn 23 Rhagfyr 2025.