Mae Tŷ'r Goron yn Adeilad Rhestredig Gradd II o’r ail ganrif ar bymtheg sydd wedi’i leoli yng nghanol Rhuthun.
Cafodd ei adnewyddu’n ddiweddar, ac addaswyd yr adeilad i bedair swyddfa gyda thoiledau hygyrch a cheginau bach.
Mae gan denantiaid fynediad i ystafell gyfarfod fawr gyda chaffi rhyngrwyd ar y llawr gwaelod. Mae gan yr adeilad lifft platfform, ac mae gan bob swyddfa system intercom.

Uned a swyddfa ar gael
Mae’r tabl canlynol yn dangos beth sydd ar gael i rentu yn yr eiddo hwn.
Unedau a swyddfeydd i rentu ym Tŷ'r Goron
| Uned/Swyddfa | Safonau Mesur Eiddo Rhyngwladol (IPMS) 3.2 troedfedd sgwâr (sq.ft) | Rent y flwyddyn |
| Swyddfa 4 |
299 sq.ft |
£2,400 |
Ymweld neu ofyn am yr eiddo hwn
Gallwch gysylltu â ni os oes gennych ddiddordeb yn yr eiddo hwn, neu os hoffech chi ragor o wybodaeth.
Cysylltu â ni
Parcio
Mae lleoedd parcio penodol i gefn yr eiddo hwn.
Cyfeiriad
Y cyfeiriad ar gyfer yr eiddo masnachol hwn yw:
11 Stryd y Ffynnon
Rhuthun
LL15 1AE
Map o'r lleoliad
Sgipiwch y map gweladwy.