Iechyd a diogelwch i fusnesau: Rheoliadau

Mae’r cyflogwr yn gyfrifol am sicrhau bod amodau gwaith yn cyfateb â’r gofynion cyfreithiol. 

Rheoli Rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

Mae'r rheoliadau yn gofyn i gyflogwyr:

  • gwblhau asesiadau o’r risgiau arwyddocaol yn y gweithle 
  • wneud trefniadau i weithredu mesurau iechyd a diogelwch, fel y nodwyd yn yr asesiadau risg 
  • apwyntio pobl gymwys i weithredu’r trefniadau 
  • sefydlu dulliau gweithredu mewn argyfwng 
  • darparu gwybodaeth a hyfforddiant i weithwyr cyflogedig 
  • cydweithio gyda'r cyflogwyr eraill sy’n rhannu’r un gweithle

Canfod mwy o wybodaeth am Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith (gwefan allanol)

Rheoliadau (Iechyd, Diogelwch a Lles) yn y Gweithle

Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb i sicrhau nad yw iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr cyflogedig yn cael eu rhoi mewn perygl. Mae Rheoliadau'r Gweithle yn sicrhau bod cyflogwyr yn cyfateb â’r gofynion sy’n diogelu eu staff wrth wneud eu gwaith. 

Mwy o wybodaeth am Reoliadau Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle (gwefan allanol)

Rheoliadau Gweithrediadau ac Offer Codi (LOLER)

Mae’n rhaid i bob offer codi gael archwiliad ac arolwg trylwyr, os yw'r offer codi yn codi pobl mae’n rhaid gwneud hyn bob 6 mis a bob 12 mis ar gyfer yr holl offer codi eraill. Mae’n rhaid i’r person sy’n cwblhau’r archwiliad a’r arolwg gael eu harolygu gan berson cymwys. 

Mwy o wybodaeth am LOLER (gwefan allanol)

Rheoliadau Cofnodi Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

Mae’n rhaid cofnodi rhai mathau penodol o anafiadau, afiechydon a digwyddiadau peryglus e.e. torri unrhyw asgwrn heblaw am y bysedd, bodiau neu fodiau traed a llestr ddim yn cau ar systemau gwasgedd.

mwy o wybodaeth am yr holl anafiadau, afiechydon a digwyddiadau peryglus y mae’n rhaid eu cofnodi (gwefan allanol)

Gallwch gofnodi digwyddiad i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar y we (gwefan allanol) neu dros y ffôn. 

Unwaith bydd y ffurflen wedi’i chwblhau bydd yn cael ei hanfon i gronfa ddata RIDDOR, ac yna bydd yn cael ei dyrannu i awdurdod gorfodaeth y busnes sydd wedi cofnodi'r anaf, afiechyd neu ddigwyddiad peryglus. Efallai bydd yr awdurdod gorfodaeth hwnnw yn cynnal archwiliad i’r ddamwain.  

Mwy o wybodaeth am RIDDOR (gwefan allanol)

Rheoliadau Trydan yn y Gwaith

Mae’n rhaid i gyflogwr sicrhau nad yw unrhyw declyn, darnau gosod nac unrhyw osodiad yn achosi perygl i unrhyw berson all ddod ar eu traws. Mae’r math o sefydliad/adeilad yn pennu pa mor aml y bydd angen i berson cymwys archwilio’r gosodiad trydanol h.y. gan ddefnyddio trydanwyr sydd wedi cofrestru gyda NICEIC neu Gymdeithas Contractwyr Trydanol ac unrhyw gyrff cyfatebol. 

Mwy o wybodaeth am Reoliadau Trydan yn y Gwaith (gwefan allanol)

Rheoliadau Rheoli Asbestos

Mae’n rhaid i bob deilydd dyletswydd (person sydd â dyletswydd yn ôl cytundeb neu denantiaeth i atgyweirio a chynnal a chadw’r adeilad):

  • Adrodd eu bod wedi canfod asbestos (lleoliad, math a chyflwr). 
  • Nodi’r mesurau y mae’n rhaid eu cymryd i reoli’r asbestos.
  • Nodi sut y bydd yr asbestos yn cael ei fonitro. 
  • Darparu cynllun i unrhyw un fydd yn dod i gysylltiad â'r asbestos h.y. contractwyr

Mae’n rhaid i ddeilydd y dyletswydd adolygu a gwirio'r cynllun pan fo'r angen, ynghyd â gweithredu a chofnodi unrhyw newidiadau i'r mesurau a nodwyd. 

Mwy o wybodaeth am Reoliadau Rheoli Asbestos (gwefan allanol)

Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

Mae’n rhaid i gyflogwr ddarparu offer a chyfleusterau sy’n ddigonol ac yn addas ar gyfer darparu cymorth cyntaf i weithwyr cyflogedig petaent yn cael anaf neu'n mynd yn sâl yn y gwaith. Y lleiafswm sy'n angenrheidiol yw bod person cyfrifol yn cymryd cyfrifoldeb am y bocs cymorth cyntaf a ffonio'r gwasanaethau brys fel bo'r angen. Mae'n rhaid i’r holl staff gael gwybod pwy yw'r person sy'n gyfrifol.

Mwy o wybodaeth am Reoliadau Iechyd a Diogelwch (gwefan allanol)

Rheoliadau Eraill

Pressure Systems Safety Regulations 2000.

  • Rheoliadau Diogelwch Systemau Gwasgedd 2000.
  • Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Offer Sgrin Arddangos) 1992. 
  • Rheoliadau Gweithrediad Codi a Chario 1992. 
  • Rheoliadau Gwaith Uchel 2005. 
  • Rheoliadau Rheoli Sylweddau sy’n Berygl i Iechyd 2002. 
  • Rheoliadau Darpariaeth a Defnydd Offer Gwaith 1998.

Efallai y bydd rheoliadau eraill yn berthnasol i’ch busnes, ewch i wefan HSE am fwy o wybodaeth.