Mae Cymru oll ar lefel rhybudd 4
Mae amrywiolyn newydd o'r feirws sy'n lledaenu’n haws ar led ym mhobman yng Nghymru. Rhaid:
- aros gartref
- cyfarfod pobl yr ydych yn byw gyda nhw yn unig
- gweithio o gartref os gallwch
- gwisgo gorchudd wyneb lle bo gofyn
- golchi eich dwylo'n rheolaidd
- aros 2 fetr wrth unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw
Mae Cymru oll mewn cyfnod o gyfyngiadau symud (lefel rhybudd 4). Beth sydd angen i chi wneud ar lefel rhybudd 4 (gwefan allanol).
Dylech hunanynysu os ydych chi neu unrhyw un yn eich cartref yn arddangos symptomau (gwefan allanol).
Os oes gennych symptomau, dylech gael prawf (gwefan allanol).
Coronafeirws (COVID-19): Achosion yn Sir Ddinbych
Mae modd gweld y nifer ddiweddaraf o achosion wedi’u cadarnhau o’r Coronafeirws yn Sir Ddinbych ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru (Ffôn symudol | Cyfrifiadur). (Cliciwch ar y tab ‘Local Authorities table’ i weld gwybodaeth ar gyfer Sir Ddinbych).