Giatiau llifogydd arfordirol

Gwybodaeth am giatiau llifogydd arfordirol yn y Rhyl a Phrestatyn.

Gwasanaethau a gwybodaeth

Giât llifogydd: Splash Point, Y Rhyl.

Mae'r giatiau llifogydd arfordirol ar hyd cynllun amddiffynfeydd Prestatyn a’r Rhyl yn cael eu defnyddio i selio ardaloedd o amddiffynfeydd y môr sydd yn is er mwyn galluogi mynediad cyhoeddus i’n traethau.

Mae’r giatiau yn gweithredu fel gorchuddion dros dro y gellir eu symud sydd wedi’u dylunio i atal llif dŵr o ymchwyddiadau stormydd, llanw uchel a llifogydd rhag effeithio ar gartrefi, busnesau a seilwaith arfordirol diamddiffyn sydd y tu ôl i’r amddiffynfeydd llifogydd ehangach.

Mae rhai o giatiau llifogydd arfordirol Sir Ddinbych yn cael eu cau dros fisoedd y gaeaf oherwydd risg uwch o dywydd gwael. Serch hynny, dim ond pan fydd stormydd yn y rhagolygon tywydd a allai effeithio ar gymunedau ger y môr yn y Rhyl a Phrestatyn y mae giatiau llifogydd eraill yn cael eu cau.

Mae’r Cyngor hefyd yn gweithredu giatiau llifogydd sydd ar gau’n barhaol yn Arena Digwyddiadau y Rhyl, ac fe ellir eu hagor i gael mynediad ar frys i’r promenâd.

Map

Mae'r map isod yn dangos y giatiau llifogydd arfordirol ar hyd cynllun amddiffynfeydd Prestatyn a'r Rhyl.

View in a larger map (Google maps)

Manylion

Mae'r tabl isod yn cynnwys manylion am giatiau llifogydd arfordirol Prestatyn a'r Rhyl, yn cynnwys eu lleoliadau ar 'what3words' (gwefan allanol).

  • Caiff giatiau llifogydd mewn 'Argyfwng' eu cau yn ystod stormydd sylweddol er mwyn amddiffyn yr ardal rhag llifogydd.
  • Caiff giatiau llifogydd 'Tymhorol' eu cau rhwng mis Hydref a mis Ebrill bob blwyddyn.
Manylion am giatiau llifogydd arfordirol
Giât llifogyddRheswm dros gauLleoliad what3words
Prestatyn 1 Argyfwng ///newsreel.outlines.ombudsman
Prestatyn 2 Ar gau am gynnal a chadw ///little.brain.convey
Prestatyn 3 & 4 Argyfwng ///neck.firmer.undercuts
Prestatyn 5 Tymhorol ///curable.extensive.shells
Cwrs Golff 1 Argyfwng ///validated.confident.emeralds
Cwrs Golff 2 Argyfwng ///pickles.deaf.annual
Cwrs Golff 3 Tymhorol ///grinning.fuse.evolution
Cwrs Golff 4 Tymhorol ///dislodge.glory.competent
Cwrs Golff 5 Tymhorol ///endearing.prowess.recur
Cwrs Golff 6 Tymhorol ///joined.acid.fruit
Cwrs Golff 7 Wedi'i gau’n barhaol
(heblaw ar gyfer mynediad i wasanaethau brys)
///chemistry.copper.kings
Cwrs Golff 8 Argyfwng ///gather.crops.mixer
Splash Point 1 Argyfwng ///fault.state.stem
Splash Point 2 Argyfwng ///affair.signal.land
Splash Point 3 Tymhorol ///dining.forks.salads
Splash Point 4 Tymhorol ///rocket.gates.wages
Splash Point 5 Argyfwng ///eagles.proper.loser
Splash Point 6 Argyfwng ///courier.veal.gear
Y Rhyl 1 Wedi'i gau’n barhaol
(heblaw ar gyfer mynediad i wasanaethau brys)
///rich.dock.fish
Y Rhyl 2 Argyfwng ///foam.owner.unity
Y Rhyl 3 Argyfwng ///trails.leave.banana
Y Rhyl 4 Argyfwng ///stress.plants.bound
Y Rhyl 5 Argyfwng ///empire.brief.likes
Y Rhyl 6 Argyfwng ///rabble.rubble.handed
Y Rhyl 7 Tymhorol ///rally.unless.hedge
Y Rhyl 8 Tymhorol ///fame.dare.among
Y Rhyl 9 Tymhorol ///down.zest.loser

Tudalennau cysylltiedig