Band Eang Cyflym Iawn

Caiff cyflymder band eang ei fesur mewn megadidau yr eiliad (neu Mbps wedi'i dalfyrru). Po fwyaf o Mbps sydd gennych chi, cyflymaf yn y byd fydd eich cysylltiad rhyngrwyd.

Pa mor gyflym ydi Band Eang Cyflym Iawn?

Mae Band Eang Cyflym Iawn yn 30Mbps neu fwy.

Pa mor gyflym ydi Band Eang Gwibgyswllt?

Mae Band Eang Gwibgyswllt yn 100Mbps neu fwy.

Ydw i'n gallu cael Band Eang Cyflym Iawn?

I weld pa gyflymder sydd ar gael yn eich cyfeiriad chi, gallwch ddefnyddio gwirydd band eang a ffôn symudol Ofcom (gwefan allanol).

Beth os nad ydw i'n gallu cael Band Eang Cyflym Iawn neu gyflymach?

Mae gan Gyngor Sir Ddinbych Swyddog Digidol sy’n gallu’ch cynghori a’ch helpu i gael y datrysiad gorau posibl i’ch eiddo. Ei gyfeiriad e-bost ydi: datblygucymunedol@sirddinbych.gov.uk

Dewisiadau cysylltiad rhyngrwyd

Llinell Danysgrifio Ddigidol Anghymesur (ADSL)

ADSL ydi'r cysylltiad rhyngrwyd mwyaf sylfaenol sydd ar gael. Mae’r system hon yn defnyddio llinellau ffôn copr. Oherwydd bod y signal trydanol yn diraddio dros y cebl copr, y pellaf ydych chi oddi wrth y gyfnewidfa arafach yn y byd fydd eich cysylltiad rhyngrwyd.

Cysylltiad Ffeibr i'r Cabinet

Mae 'Cysylltiad ffeibr i'r Cabinet' yn defnyddio llinellau ffôn copr o’r cabinet ar y stryd i’ch eiddo, ond mae’r cabinet ei hun wedi’i gysylltu drwy gebl opteg ffibr. Mae amnewid rhan fawr o’r cebl gyda ffibr yn cynyddu'r cyflymder i’r eiddo. Cyflymder uchaf cysylltiad ffeibr i'r cabinet ydi 80Mbps.

Cysylltiad Ffeibr i'r Adeilad

Cysylltiad ffeibr i'r adeilad ydi’r cysylltiad rhyngrwyd gorau. Mae’r cysylltiad rhyngrwyd yn defnyddio ceblau opteg ffibr o’r gyfnewidfa i’r eiddo. Cyflymder uchaf cysylltiad ffeibr i'r adeilad ydi 1000Mbps.

Rhwydwaith Ffôn Symudol 4G/5G

Mae modd i chi ddefnyddio rhwydwaith ffôn symudol 4G neu 5G ar gyfer eich cysylltiad rhyngrwyd. Yn ddelfrydol byddai hyn yn cynnwys llwybrydd gydag antena allanol, er mwyn gwella cyflymder a dibynadwyedd. Fe allwch chi hefyd ddefnyddio dyfeisiau eraill fel donglau 4G, Mi-Fi a hyd yn oed gosodiad ‘hotspot’ eich ffôn symudol. Mae defnyddio dyfeisiau o’r fath mewn ardaloedd gwledig neu mewn adeiladau gyda waliau trwchus yn golygu bod y cyflymder sydd ar gael yn lleihau oherwydd yr antenau gosod bychain.

Lloeren

Mae cysylltiadau rhyngrwyd lloeren ar gael, ond mae’r rhain yn gallu bod yn gyfyngedig ac yn ddrud.

Band Eang Di-wifr

Mae rhai darparwyr yn cynnig cysylltiad ryngrwyd di-wifr. Mae’r dewis yma ar gael os ydych chi’n byw yn ymyl un o’u tyrrau darlledu.