Croeso Cynnes

Warm Welcome logo

Logo Codi'r Ffyniant Bro

Hoffech chi gadw'n gynnes y gaeaf hwn a chwrdd â phobl newydd? Oes arnoch chi awydd cael sgwrs, paned o de, cymryd rhan mewn gweithgareddau difyr i'r teulu, neu ddarllen llyfr?

Os felly, mae lleoliadau ar draws Sir Ddinbych sy'n cynnig lle croesawgar, cyfforddus yn ystod y dydd i sgwrsio, cael lluniaeth, gwneud gweithgaredd, cael cyngor neu ymlacio, fel rhan o brosiect 'Croeso Cynnes'.

Mae pob lleoliad yn darparu profiad gwahanol i bawb. Bydd rhai lleoliadau yn cynnig gweithgareddau a gwasanaethau eraill megis Wi-Fi am ddim.

Mae'r prosiect hwn yn rhan o Fudiad 2025, sy'n dod â phartneriaid at ei gilydd trwy fenter Croeso Cynnes i gefnogi hyn.

Croeso i bawb!

Lleoliadau Croeso Cynnes

Lleoliadau Croeso Cynnes (PDF, 512KB)

Cliciwch ar y map isod i ganfod "Croeso Cynnes" sy'n agos atoch chi:

Map o leoliadau Croeso Cynnes (gwefan allanol)

Mae'r map yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd, felly sicrhewch eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r hyn sy'n digwydd yn eich ardal chi.

A ellwch chi gynnig Croeso Cynnes?

Os ydych chi'n sefydliad, canolfan gymunedol neu fusnes lleol sy'n cynnig "Croeso Cynnes", llenwch y ffurflen hon.

Cofrestru eich sefydliad / busnes (gwefan allanol)


Gwneud cais am Grant Prosiect Croeso Cynnes 

Mae'r broses ymgeisio am y grant hwn ar gau ar hyn o bryd.

Templed poster

Os ydych chi'n sefydliad sydd wedi cofrestru gyda'r cynllun 'Croeso Cynnes', fe allwch chi lawrlwytho templed poster i helpu i hysbysebu eich digwyddiad:

Os hoffech chi ddysgu mwy am sefydlu lle i gynnig croeso cynnes, anfonwch e-bost i: community.resilience@denbighshire.gov.uk

Logo Llywodraeth Cymru