Cronfa Ffyniant Bro: Cadwyn Adfywio, Corwen

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Roedd Cadwyn Adfywio (Cwmni Cyfyngedig drwy Warant / Menter Gymdeithasol) wedi prynu’r hen Fanc HSBC ym mis Tachwedd 2014 gyda’r nod o ddefnyddio’r adeilad fel modd i gyfrannu tuag at adfywio Corwen a’r ardal gyfagos. Roedd yr adeilad mewn cyflwr gwael ac roedd Cadwyn Adfywio wedi ceisio am arian UE i gefnogi dull fesul cam i ailwampio’r adeilad. Mae agweddau mewnol o’r adeilad bellach wedi eu hailwampio fesul cam, gyda’r llawr cyntaf yn cael ei osod i Cadwyn Clwyd fel y prif denant, mae rhan o’r ail lawr ar gael i’w osod i fusnesau micro.

Yn 2016, roedd Haygarth Berry Associates wedi eu comisiynu gan Cadwyn Clwyd / Cadwyn Adfywio i gynnal ymarfer Ymgynghoriad Cymunedol a Manyleb Prosiect i ystyried amrywiol ddewisiadau i sefydlu a chynnal model menter gymdeithasol, canolbwynt cymunedol defnydd cymysg o fewn yr hen fanc HSBC.

Wedi ei leoli yn ganolog yn nhref Corwen ac yn sefyll ar gefnffordd hanesyddol yr A5, mae’r eiddo yn Adeilad Rhestredig Gradd II tri llawr sylweddol. Bydd y prosiect hwn yn rhyddhau’r potensial wedi’i gloi mewn adeilad gwag yng nghanol Corwen drwy wneud llawer o welliannau angenrheidiol a sicrhau y bydd y cyfleusterau gwell yn ganolbwynt ar gyfer ymwelwyr a’r gymuned, fydd yn hygyrch ac yn berthnasol i bawb.

Bydd y cam olaf hwn o’r prosiect yn cynnwys:

  1. ailwampio agweddau allanol o’r adeilad
  2. gosod dehongliad ymwelwyr corfforol yn y gofod ar y llawr gwaelod.

Bwriedir i’r adeilad hwn hefyd allu darparu’r cyfleusterau cymunedol canlynol:

  • Cyfleuster masnachu prawf ar gyfer entrepreneuriaid ifanc a busnesau gwledig newydd a siop dros dro / ardal fanwerthu dros dro. Dylai’r gofod hwn hefyd fod ar gael ar gyfer grwpiau cymunedol e.e. Rheilffordd Llangollen i hybu eu cynnig.
  • Lle ar gyfer defnydd cymunedol e.e. cyfarfodydd, arddangosfeydd celf cymunedol gan Rwydwaith Celf Corwen, digwyddiadau sy’n cysylltu â’r dref e.e. diwrnod Owain Glyndŵr, Gŵyl Gerdded Corwen ym mis Medi.
  • Lleoliad hyfforddiant, cynhadledd a chyfarfod sydd hefyd yn dyblu fel ystafell TGCh.
  • Mynediad sy’n cydymffurfio â Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd.
Pwyntiau allweddol

Pwyntiau allweddol

Mae’r prosiect hwn yn brosiect trydydd parti ac ni fydd yn cael ei reoli na’i ddarparu gan Gyngor Sir Ddinbych. Mae Cytundeb Cyllid Trydydd Parti wedi nodi gofynion y cyllid a’r prosiect.

Mae’r prosiect yn ymgymryd ag ailwampio agweddau allanol Canolfan Llys Owain (hen adeilad HSBC) yng Nghorwen.

Disgwylir i hyn gynnwys:

  • Ffenestri newydd
  • Gwaith paent allanol
  • Rendro/Plastro â Morter Calch
  • Newid a thrwsio gwteri

Cyflogi rheolwr prosiect / syrfëwr at ddibenion rheoli’r prosiect ailwampio o fewn cwmpas y prosiect.

Y Sefyllfa Bresennol

Y Sefyllfa Bresennol

Mae'r prosiect hwn bellach wedi'i gwblhau.

Oriel

Oriel

Cyn gwaith adfer

Canolfan Llys Owain cyn gwaith adfer sy'n dangos cyflwr gwael ac angen ei drwsio.

Canolfan Llys Owain cyn gwaith adfer sy'n dangos cyflwr gwael ac angen ei drwsio


Ar ôl gwaith adfer

Canolfan Llys Owain ar ôl gwaith adfer, gyda rendro a phaentio tu allan.

Canolfan Llys Owain ar ôl gwaith adfer, gyda rendro a phaentio tu allan


Cysylltu â ni

Defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau cyffredinol a dewiswch ‘Ariannu Ffyniant Bro’ fel y gwasanaeth perthnasol. Yn eich ymholiad, dywedwch wrthym pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.