Cefndir y Prosiect
Nod y prosiect hwn oedd gwella’r cysylltiad rhwng Gorsaf Reilffordd Corwen a’r stryd fawr drwy greu dulliau cyfeirio ac arwyddion gwell. Bwriad y prosiect oedd gwella amser a gwariant ymwelwyr a hefyd darparu cyfleusterau gwell i breswylwyr a busnesau lleol. I gyflawni hyn, roedd y prosiect yn ceisio gwella ymddangosiad cyffredinol y stryd fawr. Yn ogystal â hynny, gofynnwyd am ardal ddynodedig o fewn y Stryd Fawr ar gyfer coeden Nadolig bob blwyddyn.
Gwaith allweddol wedi’i gwblhau:
- gosod pwynt trydanol ar gyfer Coeden Nadolig
- pafin wedi’i ailwampio/newydd o gwmpas y dref lle bo’r gofyn
- lloches bws treftadaeth newydd
- paentio potiau plannu, meinciau a rheiliau