Y Gronfa Ffyniant Bro: Prosiect Teithio Llesol Cynwyd i’r A5

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth y DU fel rhan o fuddsoddiad i Etholaeth De Clwyd cynt a hefyd gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Bydd wyneb y llwybr yn cael ei ddiweddaru o dan y prosiect arfaethedig drwy ddefnyddio’r rheilffordd flaenorol gan gysylltu Cynwyd â’r A5, a fydd yn golygu bod y llwybr ar gael 365 diwrnod y flwyddyn. Yn ogystal â hyn, crëwyd croesfan i gerddwyr heb reolaeth ar yr A5, gyda gostyngiad cyflymder mewn grym i’w gwneud hi’n haws ac yn fwy diogel i gerddwyr a beicwyr groesi / ymuno â’r A5.

Pwyntiau allweddol

Pwyntiau allweddol

Darparu llwybr teithio llesol heb draffig, gan wella mynediad i gerddwyr a beicwyr rhwng Cynwyd a Chorwen.

Oherwydd ei wyneb, bydd y gwaith yn sicrhau bod y llwybr ar gael 365 diwrnod y flwyddyn.

Bydd croesfan heb ei rheoli ar yr A5, er mwyn ei gwneud hi’n haws i gerddwyr groesi.

Y sefyllfa bresennol

Y sefyllfa bresennol

Cwblhawyd y groesfan heb ei rheoli ar yr A5 ym mis Rhagfyr 2024.

Daeth y gwaith ar y prif lwybr i rym yn llawn ym mis Mehefin, ac mae’n datblygu’n dda.

Cysylltu â ni

Defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau cyffredinol a dewiswch ‘Ariannu Ffyniant Bro’ fel y gwasanaeth perthnasol. Yn eich ymholiad, dywedwch wrthym pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.