Cronfa Ffyniant Bro: Plas Newydd

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Mae Plas Newydd yn dŷ hanesyddol yn Llangollen a fu unwaith yn gartref i Ferched Llangollen, y Foneddiges Eleanor Butler a Sarah Ponsonby, am bron i 50 mlynedd. Heddiw, amgueddfa ydyw. Gwnaeth y merched ehangu a gwella’r gerddi hefyd, gan ychwanegu llawer o nodweddion Gothig yn y Glyn, ardal gysgodol o dan y tŷ sy’n rhedeg ar hyd nant. Yr ardal ddiarffordd hon oedd hoff lecyn y merched, a bydd gweithgarwch y prosiect yn canolbwyntio ar wella mynediad iddi, yn ogystal â chreu’r posibilrwydd ar gyfer mynediad cyhoeddus yn y dyfodol i adeilad hanesyddol arall, sef "Weaver's Cottage".

Bydd y prosiect hwn yn creu mynediad o lwybr presennol ym Mhlas Newydd i Weaver’s Cottage, yn gosod rheiliau newydd 70m o hyd yn lle’r rhai sydd wedi’u difrodi i’r fynedfa ogleddol ar lethr i’r Glyn (bydd y rhain wedi’u mewnlenwi mewn gwahanol fannau er diogelwch) ac yn creu llwyfan gwylio ar ochr dde i fynedfa ogleddol y Glyn ar gyfer pobl llai abl nad ydyn nhw efallai’n gallu mynd i lawr i'r Glyn ei hun.

Pwyntiau allweddol

Pwyntiau allweddol

Mae gweithgarwch y prosiect hwn wedi’i gynnwys yng nghais Cronfa Ffyniant Bro De Clwyd a’r bwriad yw cyflwyno gwelliannau cysylltedd symudiad defnyddwyr / ymwelwyr ar hyd 11 Milltir Camlas Llangollen, Safle Treftadaeth y Byd. Bwriad hyn yn ei dro yw cynyddu’r amser y mae ymwelwyr yn aros yn Llangollen sydd â manteision economaidd a chymdeithasol cysylltiedig i'r ardal leol.

Yn ogystal â hyn, bydd gwelliannau i Blas Newydd yn cefnogi’r buddion canlynol:

  • Gwella’r hyn sydd ar gael i ymwelwyr.
  • Cynnydd yn nifer yr ymwelwyr.
  • Ymwelwyr yn treulio mwy o amser ar y safle.
  • Gwell mynediad i atyniadau allweddol.
  • Mynediad i adeilad hanesyddol yn y dyfodol, a fydd yn galluogi cynnal gwaith cadwraeth hanfodol a hwyluso datblygiad a thwf yr eiddo yn y dyfodol.

Bydd y prosiect hwn hefyd yn cyfrannu at y canlyniadau a nodwyd yng nghais Cronfa Ffyniant Bro De Clwyd ar gyfer yr ardal. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gwella mynediad i Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr Pontcysyllte a Chamlas Llangollen a’r lleoliadau cysylltiedig i ymwelwyr yn Sir Ddinbych, fel Plas Newydd.
  • Buddsoddi yn y safleoedd hyn i'w gwneud nhw’n atyniadau i ymwelwyr sy’n flaenllaw, yn addas i deuluoedd ac yn diogelu a gwella eu gwerth amwynder i gymunedau lleol.
  • Diogelu adeilad hanesyddol (Weaver’s Cottage).
  • Gwella profiad ymwelwyr mewn tŷ a gardd hanesyddol (Plas Newydd).
Y Sefyllfa Bresennol

Hyd yma, mae'r prosiect hwn wedi:

  • Gwella mynediad i’r llwybr at y Glyn, gan gynnwys gosod rheiliau newydd sy’n debyg i arddull pensaernïol cyfnod Merched Llangollen.
  • Creu ardal wylio fechan ar dop llwybr troed y Glyn.
  • Creu mynediad at Fwthyn y Gwehydd i staff ar gyfer gwaith adnewyddu pellach.

Camau nesaf:

  • Gwaith gwella’r rhwydwaith o lwybrau ar y safle.
  • Clirio rhannau o’r safle a phlannu rhedyn a deiliach ychwanegol.
  • Gosod gwell arwyddion a byrddau dehongli.
Oriel

Oriel

Gwelliannau i lwybr y Glyn a chanllaw newydd:

Plas Newydd: Gwelliannau i lwybr y Glyn a chanllaw newydd.

Plas Newydd: Gwelliannau i lwybr y Glyn a chanllaw newydd.

Plas Newydd: Gwelliannau i lwybr y Glyn a chanllaw newydd.


Cysylltu â ni

Defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau cyffredinol a dewiswch ‘Ariannu Ffyniant Bro’ fel y gwasanaeth perthnasol. Yn eich ymholiad, dywedwch wrthym pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.