Cefndir y prosiect
Mae Rhaeadr y Bedol yn gored siâp pedol 140m o hyd, y cafodd ei dylunio gan Thomas Telford i ddargyfeirio dŵr o Afon Dyfrdwy i fan cychwyn Camlas Llangollen. Mae Tŷ’r Mesurydd ar y safle yn rheoli dros 12 miliwn galwyn o ddŵr sy'n cael ei dynnu o’r afon i'r gamlas bob dydd. Yn 2009 dynododd UNESCO Raeadr y Bedol yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr Pontcysyllte a Chamlas Llangollen.
Mae Rhaeadr y Bedol wedi dod yn un o’r prif atyniadau yn Nyffryn Dyfrdwy, ac mae cynnydd mawr wedi bod yn nifer yr ymwelwyr yn y blynyddoedd diwethaf (dros 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn). Mae’r prosiect hwn wedi galluogi’r ardal i ymdopi â chynnydd parhaus yn nifer yr ymwelwyr ac wedi rhoi’r cyfle i wella cyfleusterau a llif ymwelwyr ym Maes Parcio Gwyrdd Llandysilio.
Roedd y gwaith allweddol yn cynnwys:
- gosod draeniau newydd ar gyfer y ddarpariaeth toiledau
- marciau newydd yn y maes parcio
- llwybr newydd i helpu i liniaru erydiad