Y Pedair Priffordd Fawr

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Gwelliannau i Bedair Priffordd Fawr Llangollen: Camlas Llangollen, hen Reilffordd Rhiwabon i’r Bermo, yr Afon Dyfrdwy a’r A5 Ffordd Caergybi. Gan gynnwys gwella hygyrchedd, dehongliad ac arwyddion.

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Nod y prosiect newydd hwn yw hyrwyddo a gwella pedair priffordd fawr Llangollen, drwy wneud gwelliannau i’r tirlun a’r beirianneg er mwyn gwella mynediad, bioamrywiaeth, gwelededd a dehongliad Safle Treftadaeth y Byd a Chamlas Llangollen, hen reilffordd Rhiwabon i’r Bermo, yr Afon Dyfrdwy a Ffordd Llundain i Gaergybi hanesyddol Thomas Telford (A5). Y nod yw gwella profiadau preswylwyr ac ymwelwyr ac annog pobl i dreulio mwy o amser yma. I gyflawni hyn, mae pedair prif ardal wedi cael eu nodi:

  1. Y Lanfa
  2. Mannau mynediad i'r Lanfa, y Rheilffordd a Pharc Melin Isaf Dyfrdwy
  3. Parc Melin Isaf Dyfrdwy
  4. Arwyddion a Chyfeirbyst

Mae'r gwaith arfaethedig ym mhob un o'r ardaloedd allweddol hyn yn debygol o gynnwys:

  • Gwneud gwelliannau o amgylch y Lanfa, gan gynnwys gwelliannau i seddi, mynediad ac arwyddion
  • Gwella arwyddion ar gyfer y Rheilffordd
  • Gwella hygyrchedd ac arwyddion i Barc Melin Isaf Dyfrdwy
  • Gwella, atgyweirio ac ail-ddelweddu Parc Melin Isaf Dyfrdwy
  • Gwella arwyddion ymwelwyr ar gyfer lleoliadau allweddol
Pwyntiau allweddol

Pwyntiau allweddol

  • Mae hwn yn brosiect newydd i greu gwelliannau i Bedair Priffordd Fawr Llangollen
  • Nid oes unrhyw gysylltiad rhwng y prosiect hwn a’r prosiect diweddar i ymestyn Heol y Castell na datblygiadau parhaus eraill yn Llangollen. Mae dyluniad a darpariaeth y prosiect hwn yn cael ei ystyried fel un sy’n berthnasol i gynlluniau eraill sy’n cael eu cyflawni yn y dre a’r cyffiniau. Mae’r dref yn seiliedig ar ddyluniad cysyniad dechreuol a gwblhawyd yn 2019. Roedd hwn yn cynnwys llawer o syniadau, rhai sydd eisoes wedi’u cwblhau fel rhan o’r gwaith priffyrdd diweddar. Mae’r prosiect hwn bellach yn canolbwyntio ar y 4 ardal a nodwyd, sef y Lanfa, mannau mynediad i’r Lanfa, y Rheilffordd a Pharc Melin Isaf Dyfrdwy, Parc Melin Isaf Dyfrdwy, ac Arwyddion a Chyfeirbyst.
  • Mae’r contract adeiladu bellach wedi cael ei ddyfarnu i OBR Construction.
  • Disgwylir i’r gwaith ddechrau yn ystod yr wythnos yn dechrau 5 Chwefror.
  • Mae’r prosiect i fod i gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Awst 2024
Sefyllfa bresennol

Sefyllfa bresennol

  • Gorffennaf 2024: Roedd y prosiect i fod i gael ei gwblhau’n wreiddiol erbyn diwedd mis Mehefin 2024. Yn anffodus, er ein bod wedi cynnal ymchwiliadau ar y tir cyn dechrau’r gwaith, rydym wedi dod ar draws amodau annisgwyl yn y tir ym Mharc Melin Isaf Dyfrdwy ac yn y Lanfa. Mae hyn wedi arwain ar ail-ddylunio’r sylfeini dan y grisiau presennol yn y parc, ac ail-ddylunio’r sylfeini, yn cynnwys cyflwyno is-ffrâm ddur a physt capio concrid (pad concrid trwchus sy’n cynnal strwythurau trwm mewn llefydd lle mae’r tir yn feddal) yn y Lanfa. Oherwydd yr oedi hwn, y dyddiad y disgwylir cwblhau’r prosiect erbyn hyn yw diwedd mis Awst 2024. Ond hoffem eich sicrhau bod y contractwr yn gweithio’n galed iawn i gwblhau rhai agweddau o’r cynllun yn gynt pan fo hynny’n bosibl. Bydd arwyddion a chyfeirbyst y prosiect hefyd yn cael eu gosod cyn diwedd mis Awst 2024.
  • Newyddion: 20 Ionawr 2024 - Cau maes parcio’n rhannol dros dro yn Llangollen

Cynllun gosodiad y safle Pedair Priffordd Fawr (PDF, 245KB)

Oriel

Oriel

Beth sy'n digwydd?

Yn dilyn cais llwyddiannus am arian gan y Gronfa Ffyniant Bro, rydym yn gwella’r mannau cyhoeddus sy’n cysylltu Pedair Priffordd Fawr Llangollen (Camlas Llangollen, hen Reilffordd Rhiwabon i’r Bermo, yr Afon Dyfrdwy a’r A5 Ffordd Caergybi). Rhai o’r prif flaenoriaethau yw gwella hygyrchedd, arwyddion a deunyddiau.

Y Pedair Priffordd Fawr: Cynlluniau Trefniant Cyffredinol Tachwedd 2023 (PDF, 1.71MB)


Glanfa Llangollen

Glanfa Llangollen

Ramp Parc Melin Isaf Dyfrdwy

Ramp Parc Melin Isaf Dyfrdwy

Parc Melin Isaf Dyfrdwy

Parc Melin Isaf Dyfrdwy

Adborth dyluniadau dehongliad a dynodi ffordd

Dehongliad a dynodi ffordd wedi eu Cyfuno: Fersiwn bach a chul

Dyma'r cynlluniau ar gyfer pyst dynodi y ffordd. Defnyddir pyst dynodi ffordd i helpu pobl i lywio o gwmpas ardal.

Mae'r dyluniad hwn yn dangos postyn bach, cul. Gellid gosod y rhain mewn mwy o leoedd nag arwyddion mwy, lletach. Gellid eu defnyddio i ddangos hanes ardal, neu i helpu pobl i ddod o hyd i’w ffordd o gwmpas. Byddem yn sicrhau bod yr arwyddion yn defnyddio lliwiau sy'n cyd fynd â'r ardal y maent yn cael eu gosod ynddi.

* At ddibenion enghreifftiol yn unig.

Ymgynghoriad

Ymgynghoriad

Mae gwybodaeth a gasglwyd yn ymgynghoriadau mis Ionawr a mis Ebrill wedi’i chrynhoi a’i chyflwyno yn yr Adroddiadau Crynodeb Ymgysylltu â Budd-ddeiliaid a’r Gymuned, sydd i’w gweld isod.

Pedair Priffordd Fawr Adroddiad Cryno ar Ymgysylltu â Budd-ddeiliaid a'r Gymuned.

Mae'r adborth a dderbyniwyd ddiwedd y llynedd ar y dyluniadau canfod ffordd a dehongli bellach wedi'i adolygu gan y Bwrdd Prosiect a chafwyd cyfanswm o 37 o ymatebion. Bydd Tîm y Prosiect nawr yn dechrau ar ddylunio'r arwyddion i'w gosod o fewn y cynllun hwn yn seiliedig ar y safbwyntiau a'r dewisiadau clir a fynegwyd yn yr adborth a gasglwyd.

Pedair Priffordd Fawr dyluniadau o fyrddau dehongli a chyfeirbyst, Chwefror 2024 (PDF, 1.58MB)


Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu bryderon pellach, cysylltwch â Thîm Prosiect y Pedair Priffordd Fawr yn y cyfeiriad e-bost canlynol: pedairprifforddfawr@sirddinbych.gov.uk.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro