Y Gronfa Adfywio Leol: Gwyddelwern - Canolbwynt Cymunedol

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Mae’r prosiect hwn yn rhan o gyllid y gronfa Adfywio Leol i ddarparu prosiectau a fydd yn diogelu lles, cymunedau gwledig a threftadaeth unigryw Rhuthun. Y nod yw creu canolbwyntiau cymunedol newydd ym mhentrefi gwledig cyfagos Bryneglwys a Gwyddelwern.

Mae cymuned wledig fechan Gwyddelwern angen cyfleuster cymunedol ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr. Bydd darparu canolfan gymunedol newydd yn cynnig pwynt ymgynnull canolog ar gyfer y gymuned gyda rhaglen eang o weithgareddau a gwasanaethau wedi’u cynllunio a fydd yn creu mwy o synnwyr o gysylltedd a lles ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr. Y nod yw codi proffil yr ardal wledig i fodloni galw’r ymwelwyr a’r gymuned yn fwy cyfartal.

Pwyntiau allweddol

Pwyntiau allweddol

Bydd canolbwynt cymunedol newydd a fydd yn effeithlon o ran ynni yn cynyddu’r ystod o gyfleusterau sydd yn y pentref. Bydd yn cynnwys neuadd fawr, ystafell gyfarfod/amlbwrpas, gofod ar gyfer dysgu Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar gyda chyfleusterau a gofod awyr agored.

Y sefyllfa bresennol

Y sefyllfa bresennol

Penodwyd contractwr ym mis Tachwedd 2025 a dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Chwefror 2026.

Mae strwythur adeilad newydd y canolbwynt cymunedol ar waith, y to wedi’i osod ac mae’r gwaith mewnol i’r adeilad yn cael ei wneud.

Disgwylir i gwblhau’r gwaith adeiladu ym mis Tachwedd 2026.

Oriel

Oriel

Canolbwynt Cymunedol Gwyddelwern - golwg allanol:

Canolbwynt Cymunedol Gwyddelwern - golwg allanol

Canolbwynt Cymunedol Gwyddelwern - golwg mewnol:

Canolbwynt Cymunedol Gwyddelwern - golwg mewnol

Manylion cyswllt

Manylion cyswllt

Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy e-bostio: swyddfarhaglencorfforaethol@sirddinbych.gov.uk


Cysylltu â ni

Defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau cyffredinol a dewiswch ‘Cronfa Adfywio Lleol’ fel y gwasanaeth perthnasol. Yn eich ymholiad, dywedwch wrthym pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.