Cronfa Ffyniant Bro: Loggerheads

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Mae'r prosiect hwn yn ceisio gwella a chyfoethogi Parc Gwledig Loggerheads, porth i AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac un o’r safleoedd ymwelwyr prysuraf a reolir gan Gyngor Sir Ddinbych, trwy uwchraddio’r prif adeiladau ymwelwyr, creu canopi allanol gyda seddi ychwanegol a gwell mynediad i ymwelwyr, ochr yn ochr â gwaith lliniaru llifogydd y mae mawr ei angen.

Prif nod y gwelliannau hyn fydd cynorthwyo i reoli'r pwysau sy'n gysylltiedig â chynnydd yn nifer yr ymwelwyr ac ymateb i ddisgwyliadau cynyddol ymwelwyr.

Pwyntiau allweddol

Pwyntiau allweddol

  • Mae hwn yn brosiect newydd i gyflwyno gwelliannau i atyniad i dwristiaid mewn Tirwedd Cenedlaethol poblogaidd.
  • Mae’r prosiect yn cyd-fynd â’r gwelliannau a drefnwyd hefyd ar gyfer Moel Famau.
  • Mae’r contract dylunio wedi’i ddyfarnu i ymgynghorwyr lleol, TACP a Waterco.
  • Disgwylir i’r contract adeiladu gael ei dendro’n fuan.
  • Disgwylir i’r gwaith ddechrau yn Ionawr 2025.
  • Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau erbyn mis Medi 2025.
Y Sefyllfa Bresennol

Y Sefyllfa Bresennol

  • Gwaith lliniaru llifogydd ar waith yn safle Loggerheads. Contractwyr lleol, MWT Ltd, wedi eu penodi i gyflwyno’r cynllun.
  • Mae cais Canolfan Ymwelwyr Loggerheads a gwelliannau i’r caffi yn fyw ar borth cynllunio CSDd ac yn aros am benderfyniad.
  • Bydd ceisiadau ar gael i’r cyhoedd eu gweld a chyflwyno sylwadau arnynt fel rhan o’r broses gynllunio rhwng mis Awst a mis Hydref 2024.
Oriel

Oriel

Loggerheads


Loggerheads


Loggerheads


Loggerheads

Ymgynghori

Ymgynghori

  • Bydd ceisiadau ar gael i’r cyhoedd eu gweld a chyflwyno sylwadau arnynt fel rhan o’r broses gynllunio rhwng mis Awst a mis Hydref 2024.
  • Gweld y cais cynllunio arlein a chyflwyno unrhyw sylwadau.
  • Mae darluniau o’r gwelliannau arfaethedig i’w gweld ar-lein ac yng Nghanolfan Ymwelwyr Loggerheads.
Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Sut caiff y gwelliannau yn Loggerheads eu hariannu?

Ariannwyd y gwelliannau ym Mharc Gwledig Loggerheads drwy gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Mae’r cyllid Ffyniant Bro a ddyrannwyd i Sir Ddinbych yn gyfwerth â £10.95 miliwn a bydd Rhuthun a’r cymunedau gwledig, gan gynnwys Loggerheads a Moel Famau, yn elwa o’r cyllid hwn.

Mae Loggerheads wedi derbyn £1.4 miliwn o’r gronfa hon.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Ffyniant Bro yn Sir Ddinbych ar wefan y Cyngor.

Pam nad yw’r arian yn cael ei wario ar bethau eraill, megis tyllau yn y ffordd?

Dyrannir y cyllid gan Lywodraeth y DU yn benodol ar gyfer gwella isadeiledd a chyfleusterau ym Mharc Gwledig Loggerheads.

A yw’r prosiect yn gysylltiedig â chyflawni statws Parc Cenedlaethol ar gyfer yr ardal?

Nid yw’r prosiect yn Loggerheads yn gysylltiedig â’r cynnig i gyflawni statws Parc Cenedlaethol. Mae’r Parc Cenedlaethol yn fenter arbennig a arweinir gan Lywodraeth Cymru ac nid oes penderfyniad wedi cael ei wneud mewn perthynas â hyn eto.

Pam ein bod yn gwneud y gwelliannau hyn?

Prif nod y gwelliannau hyn yw helpu i reoli’r heriau sydd ynghlwm â nifer cynyddol o ymwelwyr (dros 200,000 o ymwelwyr y flwyddyn) a bodloni’r disgwyliadau cynyddol.

A fydd y parc yn parhau i fod ar agor dros gyfnod y gwaith?

Bydd Parc Gwledig Loggerheads yn parhau i weithredu dros gyfnod y gwaith adeiladu. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhywfaint o amhariad a chyfyngiadau mynediad yn y ganolfan ymwelwyr, caffi a’r toiledau. Bydd unrhyw ddiweddariadau am amhariadau’n cael eu rhannu ar wefan CSDd, y cyfryngau cymdeithasol, a’r wasg leol.

Ymdrechir i sicrhau cyn lleied o anghyfleustra â phosibl dros gyfnod y gwaith adeiladu.

Sut wnewch chi roi gwybod i bobl beth sy’n digwydd?

Bydd modd cael manylion am gynnydd y prosiect ar dudalennau’r Gronfa Ffyniant Bro arbennig ar wefan CSDd, yn ogystal ag ar y sianeli canlynol:

  • Gwybodaeth yn y wasg leol.
  • Bydd sianeli cyfryngau cymdeithasol Sir Ddinbych a’r AHNE hefyd yn cael eu diweddaru’n rheolaidd - dilynwch ein tudalennau Facebook (gwefan allanol) a Twitter (gwefan allanol).
  • Erthyglau yn y cylchgrawn ar-lein Llais y Sir - i gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio, cofrestrwch ar ein gwefan.
  • Posteri mewn lleoliadau cymunedol allweddol (Canolfan Ymwelwyr, Loggerheads a’r Cwt Bugail, Moel Famau) i hyrwyddo ymgynghoriad lleol gan ein bod yn cydnabod nad yw pawb ar-lein.
  • Hyrwyddo drwy rwydweithiau cyfathrebu lleol ein partneriaid.
  • Cyfarfodydd a newyddlenni Cynghorau Cymuned.

Pryd fydd y gwaith gwella’n dechrau yn Loggerheads?

Disgwylir i’r gwaith lliniaru llifogydd yn y parc gwledig ddechrau yn yr haf 2024, a disgwylir i waith gwella’r adeilad ddechrau yn y gaeaf 2024/2025.

A fydd y caffi, canolfan ymwelwyr a’r toiledau’n parhau ar agor dros gyfnod y gwaith adeiladu?

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid cau’r caffi, canolfan ymwelwyr a thoiledau ym Mharc Gwledig Loggerheads dros dro dros gyfnod y gwaith i wella’r adeilad. Byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am gau cyfleusterau ar wefan CSDd, y cyfryngau cymdeithasol a’r wasg leol. Bydd trefniadau amgen megis toiledau dros dro, canolfan ymwelwyr dros dro ac ati ar gael i ymwelwyr.

A oes cynlluniau i wneud y safle’n fwy cynaliadwy ac ynni effeithlon?

Fel rhan o’r gwelliannau, rydym yn cydweithio â Thîm Ynni Sir Ddinbych er mwyn gwella cynaliadwyedd ac ynni effeithlonrwydd y safle. Archwilir opsiynau megis solar a hydro ar hyn o bryd. Yn ogystal â hynny, mae’r prosiect yn anelu at ddiogelu’r safle rhag llifogydd a gwella gwytnwch adeiladau i’r newid yn yr hinsawdd.

Sut fydd y gwelliannau yn Loggerheads yn cael effaith ar yr amgylchedd?

Fel rhan o’r cynllun, cynhaliwyd arolwg coed a gwerthusiad ecolegol rhagarweiniol ar safle Loggerheads. Bydd pob gweithgarwch yn blaenoriaethu ystyriaethau amgylcheddol ac yn anelu at sicrhau cyn lleied â phosibl o amhariad amgylcheddol, gan weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr. Fel rhan o’r gwaith llifogydd, mae’n bosibl y bydd angen gwaredu rhai coed er mwyn gwella’r arglawdd.

Manylion Cyswllt

Manylion Cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu bryderon, cysylltwch â’r tîm AHNE ym Mharc Gwledig Loggerheads:


Cysylltu â ni

Defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau cyffredinol a dewiswch ‘Ariannu Ffyniant Bro’ fel y gwasanaeth perthnasol. Yn eich ymholiad, dywedwch wrthym pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.