Cefndir y prosiect
Mae Nantclwyd y Dre yn dŷ tref canoloesol rhestredig Gradd 1 o bwysigrwydd cenedlaethol ac yn un o’r tai tref â ffrâm bren hynaf yng Nghymru. Cynhaliwyd prosiect cyfalaf i adfer y prif dŷ a’r gerddi yn 2006, gan alluogi agor y prif dŷ a’r gerddi i’r cyhoedd. Ond, gadawyd Adain Orllewinol y tŷ mewn cyflwr diogel ond ychydig yn adfeiliedig gan aros am gyllid pellach.
Yn 2022, bu i grŵp o wirfoddolwyr, Cyfeillion Nantclwyd y Dre, dderbyn cyllid grant o £10,000 gan raglen Trawsnewid Treftadaeth y Gronfa Dreftadaeth Pensaernïol. Defnyddiwyd y grant i ariannu cost yr arolygon cychwynnol, astudiaeth ddichonoldeb, a darluniau pensaernïol a oedd yn ffurfio sylfaen y cais am grant i’r Gronfa Ffyniant Bro.
Bydd y grant gan y Gronfa Ffyniant Bro yn cael ei ddefnyddio i wneud defnydd o’r ardaloedd sydd heb eu datblygu - yr Adain Orllewinol a strwythur deulawr bach yn yr ardd o’r 18fed ganrif sy’n cael ei adnabod fel y tŷ haf. Bydd y prosiect yn cyfrannu at yr allbynnau a’r canlyniadau sydd i’w cyflawni drwy Gais Cronfa Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd, Diogelu Treftadaeth, Lles a Chymunedau Gwledig Unigryw Rhuthun.
Yn dilyn ymgynghoriad gyda’r budd-ddeiliaid allweddol, penderfynwyd mai’r ymagwedd fwyaf cynaliadwy o ddatblygu’r Adain Orllewinol yw creu llety gwyliau ar y llawr uchaf a gwella cyfleusterau arlwyo a gwirfoddoli yn y gofodau ar y llawr gwaelod. Yn y cyfamser, bydd llawr gwaelod y tŷ haf yn storfa ar gyfer offer garddio, a’r llawr uchaf yn ofod newydd i ymwelwyr gyda golygfeydd o’r dref a dehongliad ategol.
Bydd y datblygiadau hyn yn galluogi twf o ran cynhyrchu incwm a chynorthwyo i gynnal y safle a Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych. Bydd y gofod arlwyo hefyd yn gymorth i hwyluso priodasau a digwyddiadau mwy. Bydd gwella’r cyfleusterau i wirfoddolwyr yn ein cynorthwyo i gadw ein gwirfoddolwyr a denu mwy, gan fod gwirfoddolwyr yn allweddol ar gyfer cynnal a chadw’r gerddi a chodi arian ar gyfer y safle.