Cefndir y prosiect
Mae Carchar Rhuthun yn garchar o arddull Pentonville ac yn adeilad rhestredig Gradd 2* - un o’r ychydig rai sydd dal ar agor i ymwelwyr yn y DU a’r unig un sydd ar agor yng Nghymru. Mae’n sbardun gwerthfawr i nifer yr ymwelwyr ac incwm yn yr ardal leol. Fodd bynnag, mae diffyg lle yn y safle presennol i ddarparu’r cyfleusterau mae llawer o’r rhai sy’n ymweld â safleoedd treftadaeth yn awr yn eu disgwyl, h.y. caffi, siop, gofod addysg, orielau arddangos, ac ati. Mae adfer yr eiddo yn 46 Stryd Clwyd yn ffocws canolog i'r prosiect hwn, a fydd yn darparu'r gwasanaethau hyn ac yn ehangu'r cynnig cyffredinol yng Ngharchar Rhuthun.
Er nad yw 46 Stryd Clwyd yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, mae’n rhan allweddol o safle’r Carchar. Dyma lle’r oedd y carchar gwreiddiol yn arfer bod. Dyma lle’r oedd y carchar hynaf yn Rhuthun yn arfer bod. Cafodd yr adeilad newydd ei adeiladu yn ei le yn ddiweddarach, ac adeiladwyd hwn fel cartref a swyddfa i Lywodraethwr y Carchar. Hyd at heddiw, mae 46 Stryd Clwyd wedi bod yn wag ers bron i 10 mlynedd.
Bydd y prosiect yn dod â llawr gwaelod 46 Stryd Clwyd yn ôl i ddefnydd drwy ddatblygu prif fynedfa newydd a mwy amlwg i’r Carchar, swyddfa docynnau a derbynfa, caffi, gofodau arddangos ychwanegol, a gofod ymchwil cyhoeddus ar gyfer Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru.