Cronfa Ffyniant Bro: Tŵr Cloc Rhuthun

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Mae’r prosiect hwn yn rhan o’r cyllid Ffyniant Bro i ddarparu prosiectau a fydd yn diogelu lles, cymunedau gwledig a threftadaeth unigryw Rhuthun. Y nod yw gwella cysylltedd cerdded a beicio yn Rhuthun a’r cyffiniau ac ategu buddsoddiad mewn gweithgareddau i roi hwb i’r dreftadaeth a gwerth diwylliannol. Mae’r ymyriadau arfaethedig yn canolbwyntio ar wneud gwelliannau i’r parth cyhoeddus, ehangu’r cwmpas ar gyfer cynnal digwyddiadau ac adfywio adeiladau a thirnodau hanesyddol i gefnogi hunaniaeth leol, hyrwyddo balchder mewn lle a rhoi hwb i ddelwedd y dref.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar wneud gwelliannau i Dŵr y Cloc yn Sgwâr Sant Pedr, Rhuthun, sy’n un rhestredig gradd 2, a gwblhawyd yn 1883 ac sy’n gofeb i Joseph Peers, 83 oed.

Mae’r prosiect yn cynnig adfer y cloc. Nid ei newid yw’r nod: nid yw gwaith cadwraeth da yn ymwneud â gwneud newidiadau mawr, ac yn aml nid yw’n amlwg i lawer o bobl sy’n mynd heibio, ond bydd yn sicrhau y gellir ei gadw mewn cyflwr da yn y dyfodol.

Yr hyn y gobeithir ei gyflawni yw adfer strwythur hanesyddol ac wyneb y cloc:

  • Adfer dialau cloc tŵr y cloc a
  • Gosod deialau newydd, dur gwrthstaen er mwyn sicrhau hirhoedledd
Pwyntiau Allweddol

Pwyntiau Allweddol

Dyma brosiect newydd i wneud gwelliannau er mwyn adfer Tŵr Cloc Rhuthun.

Mae’r prosiect yn cyd-fynd â’r gwelliannau a gynhigiwyd ar gyfer Sgwâr Sant Pedr a Pharc Cae Ddôl.

Disgwylir i'r prosiect gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2025.

Y Sefyllfa Bresennol

Y Sefyllfa Bresennol

Mae’r gwaith adnewyddu wedi dechrau. Cyflawnir y gwaith gan Rory Moore Building Conservation Ltd – cwmni cadwraeth adeiladau hanesyddol a gwaith maen.

Ymgynghori

Ymgynghori

Fel rhan o ddatblygiad y prosiect gan Bwyllgor Cloc Rhuthun, cafwyd arddangosfa ar y strwythur a’r dulliau cadwraeth arfaethedig.

Roedd ar agor i bobl ei gweld am ychydig dros bythefnos yn yr Hen Lys, Rhuthun, ac roedd rhywun yno i drafod y cynigion gyda nhw.

Roedd yr arddangosfa hefyd i’w gweld yn Llyfrgell Rhuthun am bythefnos.

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Pam fod angen adfer y cloc?

Mae cyflwr presennol adeilad y cloc yn destun pryder. Er bod y strwythur yn dal yn gadarn, mae'r gwaith cerrig/ gwaith maen ar y tu allan i'r strwythur yn dirywio oherwydd effeithiau'r tywydd a phydredd cyffredinol, ac mae’n amlwg bod planhigion, mwsogl a baw yn gorchuddio rhannau helaeth o’r gwaith cerrig mewn mannau. Mae nifer o dolciau, craciau a marciau amlwg ar y tu allan i’r cloc ac mae’r cafn dŵr wedi cael effaith fawr arno ar ryw adeg, gyda rhannau o’r gwaith carreg wedi hollti. Mae'r cyflenwad trydan yn y cloc yn hen iawn ac mae angen ei uwchraddio i gwrdd â safonau modern.

Pwy wnaeth y penderfyniad fod angen adfer y cloc?

Mae Pwyllgor Tŵr Cloc Rhuthun yn grŵp cymunedol cyfansoddiadol a sefydlwyd ym mis Chwefror 2021 gyda’r bwriad o adfer cloc y dref mor agos â phosibl i’w gyflwr gwreiddiol a’i ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Cefnogwyd y Pwyllgor gan Gyngor Tref Rhuthun. Mae'r pwyllgor yn cynnwys gwirfoddolwyr sy’n arbenigo mewn meysydd gwahanol, gan gynnwys haneswyr lleol, archeolegwyr cymwys, syrfewyr ac arbenigwyr adeiladu a phreswylwyr sy’n arbenigo mewn ariannu ac adnewyddu hanesyddol, i enwi dim ond rhai sgiliau.

Mae’r pwyllgor yn llwyr gydnabod cyflwr presennol cloc y dref ac mae wedi nodi’r angen i adfer gwaith cerrig cloc y dref ac uwchraddio cyflenwad trydan y strwythur (sydd wedi’i leoli y tu mewn i’r cloc).

A fydd unrhyw waith arall yn cael ei wneud o amgylch tŵr y cloc?

Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar adfer tŵr y cloc, er mwyn sicrhau y gellir ei gadw mewn cyflwr da yn y dyfodol.

Yr hyn y gobeithir ei gyflawni yw adfer strwythur hanesyddol ac wyneb y cloc:

  • Adfer dialau cloc tŵr y cloc a
  • Gosod deialau newydd, dur gwrthstaen er mwyn sicrhau hirhoedledd

Pryd y mae disgwyl i’r gwaith adfer ddechrau, o gofio bod Gŵyl Rhuthun yn cael ei chynnal yn yr ardal ddiwedd mis Mehefin?

Disgwylir i’r gwaith o adeiladu Sgwâr Sant Pedr ddechrau ar y safle ym mis Gorffennaf 2024 a bydd y gwaith o adfer tŵr y cloc yn cael ei wneud ar yr un pryd. Ni fydd unrhyw waith yn cael ei wneud cyn Gwŷl Rhuthun, a gynhelir ddiwedd mis Mehefin.

A fydd dal modd cael mynediad i Sgwâr Sant Pedr yn ystod y gwaith?

Mae'n anochel y bydd rhywfaint o darfu yn ystod y cyfnod adeiladu. Rydym yn annog pob busnes i rannu eu safbwyntiau ar y cam cynnar hwn, fel bod modd i ni ystyried eu pryderon pan fyddwn yn adolygu’r broses o gyflwyno’r gwaith adfer fesul cam. Bydd hyn yn helpu i lywio sut y dylem gwblhau’r gwaith a’r cyfnodau rhybudd a’r cyfathrebu y mae angen i ni ei wneud â busnesau.

A fydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth arall?

Er bod yr arian cyfalaf ar gyfer y prosiect bellach wedi'i sicrhau, dymuna’r pwyllgor adfer gynnal prosiect treftadaeth cymunedol ar y cyd â’r gwaith dan sylw i’r cloc. Byddai hyn yn golygu cyfres gyfan o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol yn ystod 2024-25, a bod pwyllgor y cloc yn gweithio gyda Chyngor Tref Rhuthun a grwpiau lleol eraill megis Cymdeithas Hanes Lleol Rhuthun, Cymdeithas Ddinesig Rhuthun a’r Cyffiniau, Gŵyl Rhuthun ac eraill. Rhagor o wybodaeth i ddilyn.


Cysylltu â ni

Defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau cyffredinol a dewiswch ‘Ariannu Ffyniant Bro’ fel y gwasanaeth perthnasol. Yn eich ymholiad, dywedwch wrthym pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.