Balchder Bro a'r Amgylchedd Naturiol: Y Rhyl, Prestatyn a Dinbych Newyddlen y Rhaglen

Rhifyn 1

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Y Rhyl, Prestatyn a Dinbych

Cyflwyniad

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn falch o fod wedi cadarnhau £19.97 miliwn o Rownd 3 o gyn Raglen Ariannu Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU i gefnogi datblygiad 7 prosiect gyda’r bwriad o wella balchder bro a gwella’r amgylchedd. Mae’r arian a sicrhawyd wedi’i ddyrannu ar gyfer y 7 prosiect llwyddiannus hyn yn unig ac nid oes modd eu trosglwyddo i brosiectau neu wasanaethau eraill.

Bu i Gyngor Sir Ddinbych gyflwyno ceisiadau ar gyfer pob un o’r 3 ardal etholaeth a oedd ar waith yn y Sir ar yr adeg hon (bu i’r ardaloedd etholaeth newid yn ystod 2024). Cafodd y prosiectau i’w cynnwys yn y cais eu cyflwyno gan Gynghorwyr Sir, Aelodau Seneddol, Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned a swyddogion ar draws Sir Ddinbych gyda chymeradwyaeth derfynol gan Gabinet y Cyngor. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am gefndir y cyllid ar wefan y Cyngor.

Mae tair prif elfen i’r rhaglen hon a ariennir gan Lywodraeth y DU. Bydd y cyntaf yn canolbwyntio ar wella canol tref Y Rhyl drwy wneud gwelliannau i’r parth cyhoeddus a chynyddu’r ymdeimlad o le a diogelwch. Mae’r ail elfen yn canolbwyntio ar baratoi safle hen Ysbyty Gogledd Cymru ar gyfer camau’r prosiect datblygu yn y dyfodol. I gloi, bydd y drydedd elfen yn gwella’r parth cyhoeddus yng nghanol tref Prestatyn ac mae’n cynnwys rhoi pwrpas newydd i’r daith natur.

Y Prosiectau

Parth Cyhoeddus Canol Tref Y Rhyl

Cynllun o welliannau i adfywio’r parth cyhoeddus a chreu gwell cysylltiad rhwng canol y dref a’r traeth.

Promenâd Canolog Y Rhyl

Gwella’r parth cyhoeddus a’r priffyrdd i wella hygyrchedd a chreu gwell cysylltiad rhwng y promenâd a chanol y dref.

Parc Poced Parth Y Rhyl

Tynnu adeiladau anniogel yn 123-131 Stryd Fawr a darparu gofod gwyrdd croesawgar ac ardaloedd eistedd, sy’n hygyrch i bawb.

Parth Cyhoeddus Marchnad y Frenhines Y Rhyl

Gwelliannau i gefnogi cynnig Marchnad y Frenhines Y Rhyl.

Hen Ysbyty Gogledd Cymru Dinbych

Cynllun i ddymchwel rhannau anniogel a diogelu gweddill yr adeilad rhestredig Gradd II er mwyn gallu cyflawni gwaith datblygu sector preifat.

Stryd Fawr Prestatyn

Gwella’r parth cyhoeddus ac isadeiledd gwyrdd ar y brif stryd fawr i wella hygyrchedd canol y dref.

Parc Natur Morfa Prestatyn

Darparu lle tawel i gerdded o amgylch y gwlyptir, gwella’r llwybr i gerddwyr a beicwyr trwy ei gysylltu â’r llwybrau eraill sydd eisoes wedi’u sefydlu.

Dim ond ar y prosiect sydd wedi’i gymeradwyo y gellir gwario’r arian a ddyrannir i’r prosiectau hyn. Pennodd Llywodraeth y DU feini prawf penodol ar gyfer y mathau o brosiectau y byddai’n eu hariannu drwy’r rhaglen ariannu hon. Gellir dod o hyd i fwy o fanylion ar wefan Llywodraeth y DU (gwefan allanol) trwy chwilio am ‘Ffyniant Bro’.

Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar gynlluniau prosiect, gan gynnwys y terfynau amser ar gyfer y dyddiadau cwblhau disgwyliedig yn cael eu rhannu gyda’r cyhoedd wrth iddynt ddatblygu. Fe allwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn drwy wefan Cyngor Sir Ddinbych.

Y Sefyllfa Bresennol

Mae’r holl brosiectau yn y cam dylunio a datblygu ar hyn o bryd gyda gwaith dichonoldeb a thirfesur bellach yn dechrau. Mae rhywfaint o oedi wedi bod i gymeradwyo’r arian yn ffurfiol oherwydd y newid yn y Llywodraeth yr haf diwethaf. Fodd bynnag, mae cymeradwyaeth derfynol ar gyfer y grant bellach wedi’i derbyn ac mae gwaith yn parhau i ffurfio timau prosiect a symud ymlaen gyda dyluniadau a datblygu’r prosiect.

Mae’r prosiectau ar gamau amrywiol o barodrwydd gyda’r rhan fwyaf ymhell o fod yn barod ar gyfer gwneud gwaith adeiladu. Wrth i gynlluniau cyflawni gael eu datblygu ar gyfer pob un o’r prosiectau, bydd mwy o wybodaeth ar gael i’ch cynghori o ran amserlenni.

Yn Y Rhyl a Phrestatyn, disgwylir y bydd ymgysylltu ac ymgynghori â’r cyhoedd yn digwydd yn nes ymlaen eleni ar gyfer rhai o’r prosiectau mwy. Bydd cyfleoedd i weld y dyluniadau ac i gael dweud eich dweud yn cael eu hyrwyddo drwy safleoedd cyfryngau cymdeithasol y Cyngor, trwy ddatganiadau i’r wasg a’n newyddlen. Cofrestrwch ar gyfer y newyddlen a fydd yn cael ei hanfon yn uniongyrchol i’ch mewnflwch i gael y newyddion diweddaraf.

Rydym yn deall efallai y bydd gan fusnesau a phreswylwyr bryderon am effaith yr adeiladu, yn arbennig lle mae gennym ni nifer o brosiectau’n agos. Wrth i brosiectau gael eu datblygu, bydd unrhyw effeithiau posibl y gwaith adeiladu yn cael ei nodi a bydd camau’n cael eu cymryd pryd bynnag fo’n bosibl i leihau unrhyw darfu i fusnesau a phreswylwyr – bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei ddosbarthu fel y daw i law.

Newyddlenni'r Dyfodol

Os oes gennych ddiddordeb mewn derbyn newyddlenni dros e-bost yn y dyfodol sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiectau sy’n cael eu cyflawni fel rhan o raglen a ariennir gan Lywodraeth y DU ar gyfer Dyffryn Clwyd, gallwch gofrestru i’n rhestr bostio drwy fynd i wefan.

Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, cysylltwch â’r tîm: ffyniantbro@sirddinbych.gov.uk.