Cronfa Adfywio Leol: Hen Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Mae Hen Ysbyty Gogledd Cymru yn safle strategol allweddol yn Ninbych. Mae’n cynnwys nifer o adeiladau a thanlwybrau diffaith hynod o beryglus, ac ni ellir achub y mwyafrif ohonynt yn strwythurol nac yn ariannol.

Er bod y rhan fwyaf o’r adeiladau ar y safle yn cael eu dymchwel (neu eisoes wedi), mae o leiaf dau a fydd yn cael eu cadw a’u hail-ddefnyddio. Y rhain yw’r Adeilad Rhestredig Prif Raddfa a’r Capel sy’n Rhestredig Gradd 2*. Rydym yn trafod gyda CADW ar hyn o bryd ynglŷn â dyfodol rhai o’r adeiladau eraill.

Ar ôl clirio’r safle, bydd cynigion yn cael eu cyflwyno i ddatblygu’r safle ar gyfer tai a defnydd economaidd.

Pwyntiau allweddol

Pwyntiau allweddol

  1. Gwaredu adeiladau a thanlwybrau peryglus a diffaith
  2. Cyflwyno Mesurau Lliniaru Ecolegol
  3. Mae nifer o adeiladau rhestredig eraill o fewn y safle, ond mae'r Cyngor wastad wedi canolbwyntio ar sicrhau adferiad yr adeilad rhestredig pwysicaf o bwysigrwydd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, yr Adeilad Rhestredig Prif Raddfa
Y sefyllfa bresennol

Y sefyllfa bresennol

  • Prif gam tynnu asbestos, dymchwel a chlirio’r safle i gychwyn ddechrau mis Mehefin
  • Trafodaethau ynglŷn â datblygu’r safle yn y dyfodol yn cael eu cynnal ar hyn o bryd
Oriel

Oriel

Bydd y wybodaeth hon ar gael cyn hir.

Ymgynghoriad

Ymgynghoriad

Nid oes ymgynghoriad wedi ei drefnu ar hyn o bryd

Cwestiynau cyffredin

Cwestiynau cyffredin

Allaf i ymweld â safle cyn Ysbyty Gogledd Cymru?

Na, ddylech chi ddim mynd yn agos at yr adeiladau na hyd yn oed fynd ar y safle. Mae’r safle’n eithriadol o beryglus ac mae sylweddau niweidiol yno. Mae unrhyw un sy’n mynd ar y safle heb ganiatâd yn tresbasu.

Cysylltu â ni

Defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau cyffredinol a dewiswch ‘Cronfa Adfywio Lleol’ fel y gwasanaeth perthnasol. Yn eich ymholiad, dywedwch wrthym pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.