Cefndir y prosiect
Mae Hen Ysbyty Gogledd Cymru yn safle strategol allweddol yn Ninbych. Mae’n cynnwys nifer o adeiladau a thanlwybrau diffaith hynod o beryglus, ac ni ellir achub y mwyafrif ohonynt yn strwythurol nac yn ariannol.
Er bod y rhan fwyaf o’r adeiladau ar y safle yn cael eu dymchwel (neu eisoes wedi), mae o leiaf dau a fydd yn cael eu cadw a’u hail-ddefnyddio. Y rhain yw’r Adeilad Rhestredig Prif Raddfa a’r Capel sy’n Rhestredig Gradd 2*. Rydym yn trafod gyda CADW ar hyn o bryd ynglŷn â dyfodol rhai o’r adeiladau eraill.
Ar ôl clirio’r safle, bydd cynigion yn cael eu cyflwyno i ddatblygu’r safle ar gyfer tai a defnydd economaidd.