Cwestiynau cyffredin
Faint o arian mae Parc Natur Morfa Prestatyn wedi ei gael gan Lywodraeth y DU ar gyfer y prosiect hwn?
Mae £850,000 wedi cael ei ddyfarnu i’r prosiect hwn.
A ellir defnyddio’r arian hwn ar gyfer rhywbeth arall?
Pennodd Llywodraeth y DU feini prawf penodol ar gyfer y mathau o brosiectau y byddai’n eu hariannu drwy’r Gronfa Ffyniant Bro.
Dim ond ar brosiectau a gymeradwywyd y gellir gwario’r arian.
Gellir gweld rhagor o fanylion ar wefan GOV.UK (gwefan allanol).
Ar gyfer beth y dyfarnwyd y cyllid?
I ddarparu 50m2 o fan gwyrdd gwell, 1km o lwybrau newydd i gerddwyr, a gwella 1km o lwybrau i gerddwyr.
Sut fyddwch yn rhoi gwybodaeth i bobl?
Bydd gwybodaeth am y prosiect wrth iddo esblygu ar gael ar wefan y Cyngor yn ogystal â thrwy’r dulliau canlynol:
- Gwybodaeth yn y wasg leol.
- Bydd sianeli cyfryngau cymdeithasol Sir Ddinbych eu diweddaru’n rheolaidd - dilynwch ein tudalennau Facebook (gwefan allanol) a X (Twitter gynt) (gwefan allanol).
- Drwy ein rhestr bostio Balchder a'r Amgylchedd Naturiol: Y Rhyl, Prestatyn a Dinbych - i'w hychwanegu at y rhestr bostio os gwelwch yn dda, cofrestrwch ar ein gwefan.
- Posteri mewn lleoliadau cymunedol allweddol i hyrwyddo ymgynghori lleol gan ein bod yn cydnabod nad yw pawb ar-lein.
- Hyrwyddo drwy rwydweithiau cyfathrebu lleol ein partneriaid.
Gan fod Cyngor Sir Ddinbych yn anelu at fod yn Ddi-garbon erbyn 2030, mae’n rhaid i ni ystyried sut yr ydym yn ymgysylltu â phawb er mwyn osgoi argraffu gormod o ddogfennau.