Cronfa Ffyniant Bro: Parc Poced Porth Canol Tref y Rhyl

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Mae Parc Poced Porth Canol Tref y Rhyl yn brosiect adfywio allweddol wedi’i gefnogi gan Rownd 3 Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Ar ochr ddeheuol Stryd Fawr y Rhyl, ger cyffordd Brighton Road, roedd yr hen safle yn cynnwys adeiladau anniogel. Cafodd y rhain eu dymchwel yn 2022 gyda chyllid drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Yn hytrach nag ailddatblygu’r safle gydag adeiladau newydd, mae Cyngor Sir Ddinbych yn trawsnewid y safle i greu ardal werdd fechan a bywiog o’r enw "parc poced". Wedi’i gynllunio i greu mynediad mwy deniadol a chroesawgar i ganol y dref, bydd y parc yn lle i bobl fwynhau’r parth cyhoeddus newydd. Mae’r fenter yn ffurfio rhan o raglen Balchder Bro a’r Amgylchedd Naturiol ehangach y Cyngor, sy’n ceisio gwella ansawdd lleoliadau a hyrwyddo lles ar draws y Rhyl.

Pwyntiau allweddol

Pwyntiau allweddol

Rydym yn gobeithio y bydd y prosiect yn:

  1. Lleoliad Strategol: Ar borth deheuol Stryd Fawr y Rhyl, wrth ymyl Vale Road Bridge.
  2. Effaith Drawsnewidiol: Disodli adeiladau anniogel a hyll, gan wella mynediad allweddol i ganol y dref.
  3. Rhan o Weledigaeth Ehangach: Yn ategu gwelliannau parth cyhoeddus eraill wedi’u hariannu drwy raglenni Balchder Bro a’r Amgylchedd Naturiol Llywodraeth y DU.
  4. Hwb i Adfywio a Lles: Yn cefnogi adfywiad canol y dref, gwella bioamrywiaeth a chynyddu brigdwf.
  5. Camau Nesaf: Yn amodol ar gymeradwyaeth, bydd y safle’n cael ei glirio ddiwedd 2025 a’r gwaith adeiladu yn dechrau yn y flwyddyn newydd.
Y sefyllfa bresennol

Y sefyllfa bresennol

Mae’r safle wedi’i glirio’n rhannol, ac mae cynlluniau dylunio manwl ar gyfer y parc poced wedi’u datblygu. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ddechrau 2025 i gasglu adborth ar y cynllun arfaethedig. Mae Cyngor Sir Ddinbych bellach yn symud ymlaen i’r cam nesaf, sef paratoi i gyflwyno cais cynllunio. Yn amodol ar gymeradwyaeth, rhagwelir y bydd y gwaith adeiladu yn cychwyn ddechrau 2026.

Oriel

Oriel

Mae argraffiadau artist o’r parc yn dangos cynllun arfaethedig y parc poced. Bydd yn darparu gofod cyhoeddus croesawgar gyda llefydd eistedd newydd, planhigion, goleuadau a lle i gadw beics. Mae’r cynllun yn cynnwys palmentydd gwell, adfer arwyddion treftadaeth a gwella mannau gwyrdd i greu amgylchedd mwy deniadol i breswylwyr ac ymwelwyr.

Parc Poced Porth Canol Tref y Rhyl yn ystod y dydd

Parc Poced Porth Canol Tref y Rhyl gyda'r nos

Ymgynghori

Ymgynghori

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus o 6 Mawrth tan 6 Ebrill 2025 i gasglu barn y gymuned am y cynlluniau arfaethedig. Gwahoddwyd preswylwyr i rannu eu barn drwy arolwg ar-lein a ffurflenni papur a oedd ar gael yn Llyfrgell y Rhyl.

Daeth dros 100 o ymatebion i law, gan adlewyrchu amrywiaeth eang o safbwyntiau lleol. Bydd yr holl adborth yn cael ei adolygu gan y tîm dylunio a bydd yn helpu i siapio cynlluniau terfynol y safle.

Cysylltu â ni

Defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau cyffredinol a dewiswch ‘Ariannu Ffyniant Bro’ fel y gwasanaeth perthnasol. Yn eich ymholiad, dywedwch wrthym pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.