Ymgynghori
Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad diweddar ar y Parc Poced arfaethedig ym Mhorth y Rhyl. Rydym yn ddiolchgar am yr amser a’r syniadau y mae preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr wedi’u cyfrannu i helpu i siapio dyfodol y gofod hwn.
Pwy wnaeth ymateb?
Derbyniwyd cyfanswm o 101 o ymatebion. Roedd y mwyafrif o’r cyfranogwyr yn breswylwyr a pherchnogion busnes lleol.
Beth ddwedoch chi wrthym ni - adborth cadarnhaol
Roedd yr ymgynghoriad yn dangos cefnogaeth eang i ddyluniad y Parc Poced arfaethedig. Dyma’r uchafbwyntiau:
- Roedd coed a phlannu cynhenid yn cael ei groesawu am eu cyfraniad i fioamrywiaeth ac ansawdd amgylcheddol cyffredinol yr ardal.
- Roedd cynnwys mynediad gwastad drwy gydol y parc yn cael ei gefnogi i sicrhau hygyrchedd i bawb.
- Roedd amrywiaeth o ddewisiadau eistedd yn cael ei weld fel nodwedd werthfawr, gan gynnig hyblygrwydd i fwynhau’r amgylchoedd.
- Roedd adfer yr arwydd hanesyddol, a gafodd ei ddarganfod yn ystod y gwaith dymchwel, yn cael ei werthfawrogi fel ffordd o ddathlu cymeriad a threftadaeth y Rhyl.
- Yn gyffredinol, roedd y cynllun yn cael ei weld fel gwelliant sylweddol ar gyflwr presennol y safle, gyda llawer o’r ymatebwyr yn teimlo’n optimistaidd am ei botensial i wella’r porth i’r Rhyl.
Beth ddwedoch chi wrthym ni – pryderon allweddol
Tra bod llawer o’r ymatebwyr yn cefnogi’r prosiect, codwyd nifer o bryderon:
- Y posibilrwydd o ymddygiad gwrthgymdeithasol a defnydd amhriodol o’r ardal
- Pwysigrwydd gwaith cynnal a chadw parhaus, yn enwedig mewn perthynas â sbwriel, fandaliaeth a baw cŵn
- Awgrymiadau y gellid cyfeirio cyllid yn well at flaenoriaethau lleol eraill
- Cymorth cyfyngedig ar gyfer storio beics, gyda rhai yn cwestiynu ei berthnasedd i’r lleoliad
- Argymhellion ar gyfer teledu cylch caeëdig i helpu i sicrhau bod y parc yn parhau i fod yn amgylchedd diogel a chroesawgar