Datblygu Cymunedol: Dod i adnabod eich cymuned 

Wrth ddatblygu syniad prosiect cymunedol, mae’n bwysig fod gennych ddealltwriaeth dda o'r ardal leol neu'r demograffig sydd i elwa. Mae hefyd yn fanteisiol defnyddio'r wybodaeth hon gan ddefnyddio ystadegau allweddol i helpu i arddangos yr angen am y prosiect i gyllidwyr.

Mae'r wybodaeth isod yn darparu amrywiaeth o wybodaeth ac adnoddau allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Mapiau ar-lein

Mae'n mapiau ar-lein ('Fy mapiau') yn eich galluogi i archwilio’n weledol amrywiaeth o gyfleusterau, gwasanaethau a gwybodaeth am dir ar draws Sir Ddinbych gan ddefnyddio map.

Mapiau ar-lein

Mae’n mapiau ar-lein yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Eich gwybodaeth Cyngor (gan gynnwys gwybodaeth etholaethau San Steffan), wardiau sirol, gorsafoedd pleidleisio, adeiladau cyngor, Aelodau Senedd Cymru a gwybodaeth am Gynghorau Dinasoedd Trefi a Chymuned
  • Lleoliadau Parciau a Banciau Ailgylchu
  • Gwybodaeth Cyngor i Ddefnyddwyr
  • Cyfleusterau addysg
  • Gwybodaeth am gyfleusterau hamdden, toiledau cyhoeddus a hawliau tramwy cyhoeddus
  • Cyfleusterau Llyfrgell ac Archifau
  • Gwybodaeth parcio, ffyrdd a theithio
  • Rheoliadau Adeiladu a Chynllunio (gan gynnwys ardaloedd cadwraeth, adeiladau rhestredig, cynllun datblygu lleol, ceisiadau cynllunio a gorchmynion diogelu coed)

Cyfleusterau ystadegau cymunedol

Asesiad Lles

Cyhoeddir yr Asesiad Lles gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych. Mae’n adnodd sydd ar gael i bawb, caiff ei gyhoeddi ar-lein ac mae’n cynnwys amrywiaeth eang o wybodaeth a dadansoddiadau o ymgysylltu, ymgynghori, ystadegau, data ac ymchwil arall er mwyn rhoi mewnwelediad i ni i dueddiadau, materion a chyfleoedd sy’n wynebu Sir Ddinbych heddiw ac yn y dyfodol.

Mae'r Asesiad Lles wedi ei lywio gan ddata, ymchwil cenedlaethol a lleol, ac yn bwysicach oll, adborth a gawsom gan breswylwyr, ymwelwyr a busnesau drwy Sgwrs y Sir yn ystod yr haf a'r hydref 2021.

Mae’r pynciau’n cynnwys (ymhlith eraill):

  • bywydau iach a disgwyliad oes
  • tlodi, gan gynnwys tlodi bwyd a thlodi tanwydd
  • cydraddoldeb
  • teithio
  • swyddi, sgiliau a’r economi
  • newid hinsawdd, bioamrywiaeth a chadernid (er enghraifft, llifogydd)
  • celfyddydau, diwylliant, twristiaeth a threftadaeth

Mae’n adnodd pwysig a gellir ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd, er enghraifft:

  • i gynllunio gwasanaethau
  • i gael gwybodaeth a dadansoddiadau mwy manwl am ein cymunedau
  • i wneud ceisiadau am gyllid

Gweler yr Asesiad Lles llawn ar wefan Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych (gwefan allanol)

Deall Lleoedd Cymru

Mae Deall Lleoedd Cymru â swyddogaeth debyg i wefan Proffilio Lleoedd Cymru ac yn darparu offeryn ystadegau gweledol, yn seiliedig ar leoedd, sy'n caniatáu cymharu sawl ardal debyg yng Nghymru.

Fodd bynnag mae’r wefan yn cynnwys proffiliau ar gyfer dros 300 o ardaloedd yng Nghymru (yn rhestru’r rheiny lle mae mwy na 1000 o drigolion) ac hefyd mae ystadegau ar gyfer rhanbarthau daearyddol llai o fewn trefi, pentrefi ac ardaloedd gwledig ar y dudalen 'Mapiau Cymdogaeth'.

Deall Lleoedd Cymru (gwefan allanol).

NOMIS

Gwasanaeth yw NOMIS a ddarperir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac mae’n darparu amrywiaeth eang o wybodaeth ystadegol y llywodraeth ar farchnad lafur y DU gan gynnwys Cyflogaeth, Diweithdra, Enillion, ac Arolwg Poblogaeth Blynyddol.

NOMIS (gwefan allanol).

StatsCymru

Mae StatsCymru yn wasanaeth am ddim sy'n caniatáu i chi weld, defnyddio, creu a lawrlwytho tablau o ddata am Gymru.

StatsCymru (gwefan allanol).

InfobaseCymru

Ewch i InfoBaseCymru i gael gwybodaeth am bobl, yr economi, addysg, iechyd, tai, yr amgylchedd, cludiant a diogelwch cymunedol.

Infobase Cymru (gwefan allanol).