Penodi Aelod Annibynnol i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor Sir Ddinbych
Rydym yn edrych i benodi Aelod Annibynnol i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor a fydd yn gyfrifol am ddarparu ffocws lefel uchel annibynnol ar ddigonolrwydd trefniadau llywodraethu, risg a rheolaeth o fewn y Cyngor. Mae y rôl o ran sicrhau bod digon o sicrwydd ynghylch llywodraethu, risg a rheolaeth yn rhoi mwy o hyder i'r Cyngor fod y trefniadau hynny'n effeithiol.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddangos annibyniaeth, uniondeb a didueddrwydd wrth gyflawni gwaith y pwyllgor a meddu ar y rhinweddau a'r sgiliau a ganlyn:
- Sgiliau dadansoddol gan gynnwys y gallu i ddeall a phwyso a mesur tystiolaeth
- Y gallu a'r hyder i herio a dwyn Swyddogion y Cyngor a chynrychiolwyr Archwilio Mewnol ac Allanol i gyfrif;
- Y gallu i asesu materion sy'n ymwneud â threfniadau ar gyfer rheoli risg, llywodraethu a rheolaeth, a nodi a gwerthuso atebion;
- Ymwybyddiaeth strategol a'r gallu i wneud penderfyniadau clir a rhesymegol;
- Gweithio i safon uchel o ymddygiad, gan ddangos gonestrwydd a chywirdeb a disgresiwn;
- Parch tuag at eraill a dealltwriaeth o faterion amrywiol.
- Empathi â'r Iaith Gymraeg a Diwylliant
- Profiad o fynychu a chyfrannu at gyfarfodydd
Nid oes rhaid cael gwybodaeth fanwl o lywodraeth leol er y byddai o fantais os byddai angen i ymgeiswyr posibl fod â dealltwriaeth dda o'r amgylchedd y mae Cyngor Sir Dinbych yn gweithredu ynddo.
Ni all berson fod yn aelod annibynnol os yw:
- Yn aelod neu'n swyddog o Gyngor Sir Ddinbych neu unrhyw awdurdod lleol arall,
- Wedi bod ar unrhyw adeg yn y cyfnod o ddeuddeg mis yn dod i ben gyda dyddiad y penodiad, yn aelod neu'n swyddog o unrhyw awdurdod lleol, a
- Yn briod neu'n bartner sifil i aelod neu swyddog o unrhyw awdurdod lleol.
- Wedi cael eu hanghymhwyso o dan Adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 neu unrhyw ddeddfiad arall
Taliadau i Aelodau Annibynnol
Byddwch yn derbyn rhwng £105 a £268 y diwrnod yn dibynnu ar eich rôl ac mae'r Pwyllgor Safonau yn cyfarfod hyd at 6 gwaith y flwyddyn yn Sir Ddinbych.
Bydd pob cais yn cael ei farnu yn ôl ei deilyngdod a bydd yr angen i gael cydbwysedd o sgiliau, rhinweddau ac arbenigedd ar y Pwyllgor.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5 Medi 2025.
Bydd y penodiad yn amodol ar gyfweliad gyda Phanel Cynghori ar 25 Medi 2025. Bydd y Panel Cynghori yn gwneud argymhelliad ar y 11 Tachwedd 2025 i’r Cyngor Llawn a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar y penodiad.
Am sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch â Gary Williams, Swyddog Monitro ar gary.williams@denbighshire.gov.uk neu 01824 712562.
Mae ffurflenni cais ar gael gan Amy Foster ar amy.foster@denbighshire.gov.uk neu dros y ffôn ar 01824 712607.
Gwybodaeth i ymgeiswyr
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Aelodau Annibynnol (Lleyg) - Gwybodaeth i ymgeiswyr (PDF, 480KB)