Penodi Aelod Annibynnol ar Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyngor Sir Ddinbych 

Rydym yn edrych i benodi Aelod Annibynnol Lleyg i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor a fydd yn gyfrifol am ddarparu ffocws lefel uchel annibynnol ar ddigonolrwydd trefniadau llywodraethu, risg a rheolaeth o fewn y Cyngor. Mae y rôl o ran sicrhau bod digon o sicrwydd ynghylch llywodraethu, risg a rheolaeth yn rhoi mwy o hyder i'r Cyngor fod y trefniadau hynny'n effeithiol.

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddangos annibyniaeth, uniondeb a didueddrwydd wrth gyflawni gwaith y pwyllgor a meddu ar y rhinweddau a'r sgiliau a ganlyn:

  • Sgiliau dadansoddol gan gynnwys y gallu i ddeall a phwyso a mesur tystiolaeth
  • Y gallu a'r hyder i herio a dwyn Swyddogion y Cyngor a chynrychiolwyr Archwilio Mewnol ac Allanol i gyfrif;
  • Y gallu i asesu materion sy'n ymwneud â threfniadau ar gyfer rheoli risg, llywodraethu a rheolaeth, a nodi a gwerthuso atebion;
  • Ymwybyddiaeth strategol a'r gallu i wneud penderfyniadau clir a rhesymegol;
  • Gweithio i safon uchel o ymddygiad, gan ddangos gonestrwydd a chywirdeb a disgresiwn;
  • Parch tuag at eraill a dealltwriaeth o faterion amrywiol.
  • Empathi â'r Iaith Gymraeg a Diwylliant
  • Profiad o fynychu a chyfrannu at gyfarfodydd

Nid oes rhaid cael gwybodaeth fanwl o lywodraeth leol er y byddai o fantais os byddai angen i ymgeiswyr posibl fod â dealltwriaeth dda o'r amgylchedd y mae Cyngor Sir Dinbych yn gweithredu ynddo.

Ni all berson fod yn Aelod Annibynnol Lleyg os yw:

  • Yn aelod neu'n swyddog o Gyngor Sir Ddinbych neu unrhyw awdurdod lleol arall,
  • Wedi bod ar unrhyw adeg yn y cyfnod o ddeuddeg mis yn dod i ben gyda dyddiad y penodiad, yn aelod neu'n swyddog o unrhyw awdurdod lleol, a
  • Yn briod neu'n bartner sifil i aelod neu swyddog o unrhyw awdurdod lleol.

Taliadau i Aelodau Annibynnol Lleyg

Byddwch yn derbyn rhwng £105 a £268 y diwrnod yn dibynnu ar eich rôl ac mae'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cyfarfod hyd at 7 gwaith y flwyddyn yn Sir Ddinbych.

Bydd pob cais yn cael ei farnu yn ôl ei deilyngdod a bydd yr angen i gael cydbwysedd o sgiliau, rhinweddau ac arbenigedd ar y Pwyllgor.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12fed Hydref 2026.

Bydd y penodiad yn amodol ar gyfweliad gyda Phanel Cynghori ar 22ain Hydref 2026. Bydd y Panel Cynghori yn gwneud argymhelliad ar y 24ain Tachwedd 2026 i’r Cyngor Llawn a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar y penodiad.

Am sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch â Gary Williams, Swyddog Monitro ar gary.williams@sirddinbych.gov.uk neu 01824 712562.

Mae ffurflenni cais ar gael gan Amy Foster ar amy.foster@sirddinbych.gov.uk neu dros y ffôn ar 01824 712607.

Gwybodaeth i ymgeiswyr

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Aelodau Annibynnol (Lleyg) Gwybodaeth i ymgeiswyr (PDF, 1MB)