Ystadegau a data: Strydoedd glân a thaclus
Mae Sir Ddinbych yn perfformio'n dda iawn yn y mesurau glendid strydoedd cenedlaethol.
Yn 2013, sgoriodd Sir Ddinbych 82.8 ar y Mynegai Glanweithdra. Sgôr cyfartalog ardaloedd eraill o Gymru oedd 72.5.
Barn ein trigolion
Mae canlyniadau arolwg preswylwyr 2013 yn dangos bod:
- 73% o'r preswylwyr yn fodlon ar lendid cyffredinol y strydoedd yn eu hardal leol. Roedd 18% o'r rhain yn fodlon iawn.
- 60% o'r preswylwyr yn credu mai'r broblem fwyaf ar eu strydoedd yw baw cŵn.
- 74% o'r preswylwyr yn fodlon ar lendid canol y dref agosaf. Dywedodd 16% o'r rhain eu bod yn fodlon iawn.
- 59% o'r preswylwyr yn credu mai'r broblem fwyaf yng nghanol eu tref agoaf yw cyflwr ac edrychiad adeiladau a blaenau siopau.
- 48% o'r preswylwyr yn credu mai baw ci yw'r broblem lendid fwyaf yng nghanol eu tref agosaf.