Ystadegau gwasanaethau plant a data perfformiad

Bob blwyddyn mae Llywodraeth Cymru’n mesur perfformiad gwasanaethau cymdeithasol pob Awdurdod Lleol, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae’r Mesuryddion Atebolrwydd Perfformiad yn rhai statudol, ac yn disodli’r holl fesuryddion perfformiad y mae Llywodraeth Cymru’n eu defnyddio ar hyn o bryd, gan gynnwys y dangosyddion perfformiad ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol sy’n rhan o’r Dangosyddion Strategol Cenedlaethol.

Diben pennaf y mesuryddion hyn yw sicrhau fod holl awdurdodau lleol Cymru’n medru dangos eu bod yn gweithio mor effeithiol ag y gallant, a bod modd iddynt gymharu eu hunain ag awdurdodau eraill. Maent hefyd yn cynorthwyo awdurdodau lleol i fod yn fwy agored â’r cyhoedd ynglŷn â’r pethau sydd bwysicaf i bobl.