Newidiadau i gofrestru genedigaeth, marw-enedigaeth neu farwolaeth
O 9 Tachwedd 2026, bydd y Gofrestr Enedigaethau a Marwolaethau yn disodli’r cofrestrau papur traddodiadol yng Nghymru a Lloegr. Mae’r newid cenedlaethol hwn yn cael ei gyflwyno gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ac fe’i cefnogir gan ddeddfwriaeth newydd. Bydd yn moderneiddio’r broses gofrestru gan gynnal cywirdeb a diogelwch cofnodion swyddogol.
Beth fydd yn newid yn eich apwyntiad?
Dyma’r prif newidiadau:
- Cofnodion electronig: bydd genedigaethau, marw-enedigaethau a marwolaethau yn cael eu cofnodi’n electronig yn hytrach nag mewn cofrestrau papur.
- Dim llofnod ar bapur: ni fyddwch yn llofnodi cofrestr bapur mwyach.
- Datganiad llafar: yn lle hynny, byddwch yn cadarnhau yn ystod eich apwyntiad fod yr wybodaeth a ddarparwyd gennych yn wir hyd eithaf eich gwybodaeth a’ch cred.
- Gwiriadau hunaniaeth wrth gofrestru genedigaethau: bydd gofynion gwirio hunaniaeth yn berthnasol o dan y ddeddfwriaeth newydd.
Bydd yn rhaid i chi ddod gyda chi dogfen adnabod dderbyniol sy’n dangos eich enw cyntaf a’ch cyfenw, er enghraifft:
- pasbort dilys;
- trwydded yrru ddilys yn y DU (llawn neu dros dro), neu
- dystysgrif geni.
Ni dderbynnir dogfennau adnabod sy’n dangos llythrennau blaen yn unig.
Os nad oes gennych yr un o’r dogfennau hyn, siaradwch gydag aelod o’r tîm i weld pa ddogfennau adnabod eraill syn dderbyniol
Bydd angen aildrefnu eich apwyntiad os byddwch yn dod heb y dogfennau adnabod cywir.
Tystysgrifau: bydd y rhain yn parhau i gael eu rhoi, byddant yn edrych yn debyg iawn i’r rhai presennol a bydd ganddynt yr un statws cyfreithiol.
Bydd apwyntiadau’n parhau wyneb yn wyneb
Bydd apwyntiadau’n parhau i gael eu cynnal wyneb yn wyneb â chofrestrydd. Bydd y trefniadau presennol ar gyfer gwneud datganiad drwy ardal gofrestru arall hefyd yn parhau.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y newidiadau, cysylltwch a ni os gwelwch yn dda.