Hyfforddiant Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn

Bydd yr Hyfforddiant Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn addysgu’r cyfranogwyr i ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a fydd yn eich helpu i weithio’n unigol gyda’r plant rydych chi’n gofalu amdanyn nhw ac yn eu cefnogi. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Diwrnod da – diwrnod gwael: Defnyddir yr adnodd hwn i gasglu gwybodaeth am beth sy’n gwneud diwrnod unigolyn yn un da neu’n un gwael, a’r hyn y gallwch ei wneud i sicrhau eu bod yn cael mwy o ddyddiau da.
  • Beth sy’n gweithio a ddim yn gweithio: Ciplun o safbwyntiau gwahanol bobl o sut mae pethau, beth sy’n gweithio’n dda a beth ddylai fod yn wahanol. Gall ganolbwyntio ar un maes bach o addysg y dysgwr neu fod yn fwy cyffredinol.
  • Proffiliau un dudalen: Mae proffil un dudalen yn sail i gefnogaeth sy’n canolbwyntio ar unigolion, ac mae’n cynnwys gwybodaeth allweddol am gymeriad, doniau a thalentau unigolion; beth sy’n bwysig iddyn nhw; a’r ffordd orau i’w cefnogi.

Mae’r sgiliau a ddisgrifir yn ymarferol ac yn hawdd eu defnyddio, ac yn rhoi gwybodaeth i chi y gallwch ei defnyddio’n uniongyrchol o fewn eich lleoliad a thu hwnt. Yn fwy na dim, maen nhw’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i blentyn unigol, gan eich galluogi chi i ddod i ddeall beth sydd o bwys iddyn nhw, ac i ganfod y ffyrdd gorau o’u cefnogi.

Fyddwch chi ddim yn wynebu rhestr o heriau neu broblemau i’w goresgyn ar y diwedd, gan y byddwch chi’n casglu ac yn rhannu’r hyn sydd bwysicaf i’r dysgwyr ac ar eu cyfer, o’u safbwynt nhw ac o safbwynt y bobl sydd agosaf atyn nhw. Bydd gennych chi ddarlun cyflawn sydd wir yn canolbwyntio ar yr unigolyn.

Pryd a lle fydd y cyrsiau’n cael eu cynnal?

Dewiswch dref neu ddinas i weld pryd a lle mae’r hyfforddiant hwn yn cael ei gynnal.

Pwy sy’n cael dod?

Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer:

  • staff darparwyr gofal plant blynyddoedd cynnar yn Sir Ddinbych
  • staff Blynyddoedd Cynnar a Chydlynwyr ADY ysgolion Sir Ddinbych
  • gwasanaethau cefnogi cyn ysgol yr Awdurdod Lleol
  • staff sefydliadau ambarél

Sut i gymryd rhan

Rhaid i chi archebu lle i gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn.

Llenwch un ffurflen archebu ar gyfer bob unigolyn.

Archebwch le ar yr hyfforddiant Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn