Anghenion Dysgu Ychwanegol ac anableddau ar gyfer lleoliadau gofal plant

Mae holl ddarparwyr gofal plant yn Sir Ddinbych yn cynnig gofal i blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a phlant sydd ag anableddau. Mae’r ystod o ofal addas sydd ar gael yn amrywio rhwng darparwyr, yn dibynnu ar brofiad y darparwr, hyfforddiant ac addasrwydd y cyfleusterau. 

Mae’n syniad da cysylltu â’r darparwyr gofal plant y mae gennych chi ddiddordeb ynddyn nhw i drafod sut y gallan nhw fodloni anghenion eich plentyn. Gallwn weithredu fel brocer a chysylltu â darparwyr ar eich rhan i gael gwybodaeth sylfaenol ac argaeledd. Cysylltwch â ni os hoffech i ni wneud hynny. 

Cyd-gofrestr anabledd

Byddwn yn cadw cofrestr o blant a phobl ifanc (hyd at 19 oed) sydd â salwch cronig neu anabledd. Bydd yn ein helpu i gynllunio a chydlynu ein gwasanaethau.