Gwneud cais am Rhaglen gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar: cynllun grantiau bach

Beth sy'n digwydd i fy ngwybodaeth?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau sydd yn berthnasol i’ch cais.

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd arlein i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym ni’n trin eich gwybodaeth bersonol.

  • Cyn i chi ddechrau

    Er mwyn llenwi’r ffurflen gais hon, bydd angen i chi ddarparu:

    • eich manylion
    • gwybodaeth am y lleoliad gofal plant rydych yn gwneud cais am gyllid, gan gynnwys:
      • math o ddarpariaeth
      • rhif cofrestru Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), enw’r unigolyn cofrestredig, a nifer y llefydd AGC (os ydych wedi cofrestru ag AGC)
      • tystiolaeth i ddangos fod y ddarpariaeth yn y broses o gofrestru ag AGC (os nad ydych wedi cofrestru eto)
      • eich rhif a dyddiad dechrau Tystysgrif Atebolrwydd Cyhoeddus
    • anylion o beth fyddech yn defnyddio’r cyllid ar ei gyfer, gan gynnwys:
      • eglurhad cryno o beth fyddech yn defnyddio’r cyllid ar ei gyfer
      • tystiolaeth o’r gwaith yr hoffech ei gyflawni, megis:
        • llun o’r offer sydd angen ei newid neu ardaloedd sydd angen eu hadnewyddu
        • llythyrau gan Ddechrau’n Deg, Tîm Addysg Gynnar neu rieni yn cefnogi’r gwaith
      • a fydd costau’r gwaith neu’r offer sydd eu hangen o dan, yr un fath neu dros £5,000
    • manylion banc i dalu’r grant (os yn llwyddiannus).

    Byddwch hefyd angen darllen a derbyn telerau ac amodau Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar - cynllun grantiau bach.